Prentisiaid yn helpu grŵp bancio i ffynnu

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Rheolwr Prentisiaethau y Lloyds Bank Group yng Nghymru, Sharon Morgan, a phrentisiaid.

Rheolwr Prentisiaethau y Lloyds Bank Group yng Nghymru, Sharon Morgan, a phrentisiaid.

Mae prentisiaethau wrth galon y cynllun Helpu Prydain i Ffynnu gan Grŵp Bancio Lloyds. Lansiwyd y cynllun yn 2012 a bwriad y cwmni yw creu 8,000 o brentisiaethau ledled Prydain erbyn 2020.

Mae eisoes wedi cyrraedd 5,750, yn cynnwys 600 yng Nghymru, 150 ohonynt wedi’u recriwtio eleni.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae cynllunwyr Prentisiaethau mewnol y Lloyds Banking Group yn cydweithio â’r partner hyfforddi, Coleg Caerdydd a’r Fro, i greu llwybrau pwrpasol i ddysgwyr, fel Gwasanaethau Ariannol Lefel 2 a 3, Gwasanaethau i Gwsmeriaid Lefel 3, Gweinyddu Busnes Lefel 3 a Rheoli Timau Lefel 3.

Trwy gydweithio fel hyn, gellir cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb, e-ddysgu a dysgu fel grŵp/yn unigol ac mae hyb mewnol yn helpu i greu cymunedau dysgu sy’n cefnogi’i gilydd.

Mae gan bob rhaglen anogwr dawn penodol i ddatblygu sgiliau’r dysgwyr, gyda chymorth y partner hyfforddiant, Llysgenhadon Prentisiaethau a rheolwyr llinell sy’n mentora prentisiaid.

Dywedodd rheolwr Prentisiaethau’r Grŵp yng Nghymru, Sharon Morgan: “Rydyn ni wrth ein bodd â’n Rhaglen Brentisiaethau. Mae’r prentisiaid yn cael effaith sylweddol a phendant ar y Grŵp, gan ein helpu i gynyddu sgiliau ein gweithwyr, datblygu cymwysterau proffesiynol a denu doniau newydd.

“Yn 2018, merched yw 54% o’n prentisiaid ac mae 55% yn 23 oed neu’n iau. Mae gwaith marchnata mewn ysgolion, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, wedi’n helpu i greu busnes amrywiol.”

Dywedodd Angela Maguire-Lewis o Goleg Caerdydd a’r Fro: “Rydym wedi cydweithio’n agos â thîm rheoli LBG i ddatblygu rhaglenni ac i gefnogi’r prentisiaid trwy ein tîm asesu sydd ar y safle. Hyd yma, rydym wedi cymryd 150 o brentisiaid a phob un ohonynt wedi dal ati.”

Wrth longyfarch y Lloyds Banking Group ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —