Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio ei Adroddiad Blynyddol sy’n rhoi cyfle i’w bartneriaid edrych yn ôl dros y gwaith a’r gweithgareddau sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-24.
Mae eleni wedi bod yn arwyddocaol i Cymwysterau Cymru mewn sawl ffordd. Mae wedi gweld dychwelyd i drefniadau asesu cyn-bandemig gyda chanlyniadau yn cyd-fynd yn fras â lefelau 2019.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys:
sut y gwnaethom gymryd y cam olaf yn y newid yn ôl i drefniadau cyn-bandemig
creu’r gyfres o Gymwysterau Cenedlaethol a wnaed ar gyfer Cymru ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, gan gynnwys TAAU, y gyfres Sgiliau, cymwysterau Sylfaen a TGAU
y dull o ddynodi cymwysterau eraill i gyd-fynd â Chymwysterau Cenedlaethol 14-16
datblygiadau mewn cymwysterau galwedigaethol ôl-16
adolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
cael ein rhestru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn ddefnyddiol i chi, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â ni cyfathrebu@cymwysterau.cymru