Gobaith am gymhwyster newydd mewn peirianneg yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau.

Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc yng Nghymru sy’n ystyried gyrfa mewn peirianneg yn cael cyfle yn y dyfodol i astudio’r pwnc ar gyfer TGAU newydd.

Mae peirianneg a gweithgynhyrchu yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, gan gyflogi dros 165,000 o bobl – o rai sy’n gweithio mewn gweithdai bychan i weithwyr cwmnïau uwchdechnoleg fel Airbus, Tata Steel ac Aston Martin.

Gallai TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu gyfrannu at y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022, trwy helpu i ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, blaengar a chreadigol.

Mae Cymwysterau Cymru yn ystyried cyflwyno TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu fel rhan o set newydd o gymwysterau gwyddoniaeth a thechnoleg yn benodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Yn ei ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol, mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am sylwadau am y cymhwyster newydd arfaethedig. Er enghraifft, mae’n debygol y byddai’r TGAU newydd yn disodli rhai o’r cymwysterau presennol mewn pynciau sy’n ymwneud â pheirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae’n un o nifer o gynigion sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad sy’n ceisio mapio dyfodol cymwysterau yng Nghymru.

Daw’r cynnig yn dilyn adolygiad manwl o’r sector peirianneg, gweithgynhyrchu uwch ac ynni a gynhaliwyd gan Gymwysterau Cymru y llynedd.
Roedd yr adolygiad yn nodi’r angen i bobl ifanc fod yn fwy ymwybodol o beirianneg a phrentisiaethau, yn enwedig mewn ysgolion, a’r angen i annog mwy o fenywod a merched i ddilyn cyrsiau cysylltiedig â pheirianneg.

Byddai’r cymhwyster newydd hwn yn cyflwyno dysgwyr i lawer o gyfleoedd amrywiol a chyfoethog i astudio byd peirianneg. Awgrymir y byddai’n canolbwyntio ar asesu sgiliau ymarferol a chymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd mewn bywyd go iawn, yn ogystal ag ar gynnwys damcaniaethol.

Ein rôl ni, y rheolydd annibynnol, yw ystyried y cymwysterau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol ac, yn benodol, sut y caiff cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru ei asesu o 2027 ymlaen.
O 2022 ymlaen, bydd cwricwlwm newydd a seilir ar chwe maes dysgu eang:

  • y celfyddydau mynegiannol
  • iechyd a lles
  • y dyniaethau
  • ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • mathemateg a rhifedd
  • gwyddoniaeth a thechnoleg

Mae Bil drafft y Cwricwlwm yn gwneud ei ffordd trwy’r Senedd, ac rydym yn awyddus i barhau â’r drafodaeth bwysig am ei effaith ar gymwysterau.

Mae ein hymgynghoriad Cymwys ar gyfer yr dyfodol yn cynnwys llawer o gynigion ynghylch yr holl feysydd dysgu eang, rhai’n awgrymu newidiadau bychan i gymwysterau ac eraill ar raddfa fwy.

Yn ogystal â TGAU newydd mewn peirianneg a gweithgynhyrchu, mae un o’r cynigion yn cynnwys cymhwyster TGAU newydd mewn astudiaethau ffilm.
Mae Cymru wedi parhau i weld twf ym maes cynhyrchu ar gyfer y teledu a ffilmiau dros y blynyddoedd diwethaf trwy’r sianeli darlledu sefydledig a chynhyrchwyr annibynnol. Byddai’r cymhwyster arfaethedig yn help i symud ymlaen i nifer o bynciau a llwybrau gyrfa yn y celfyddydau mynegiannol a’r diwydiannau creadigol yn ehangach.

Felly mae’n bwysig ein bod yn clywed oddi wrth gynifer o bobl ag sy’n bosibl am y cynigion hyn a chynigion eraill, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cael dewis o’r cyfuniad cywir o gymwysterau.

Mae’n gyfnod hynod o brysur a heriol i bawb wrth i ni barhau i ddelio â’r pandemig. Ond rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn yn awr i roi cyfle i bawb ddweud eu dweud ar y penderfyniadau pwysig hyn ac i sicrhau bod pawb yn cael digon o amser i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau.

Rydym wedi ceisio sicrhau ei bod mor hawdd ac mor hwylus ag y bo modd i bobl ddweud wrthym beth sydd bwysicaf iddyn nhw. Dyna pam yr ydym wedi cynhyrchu fersiwn sy’n addas i bobl ifanc ac sy’n yn esbonio’r cynigion mewn ffordd symlach, i fynd ochr yn ochr â’r brif ddogfen ymgynghori ar ein gwefan.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 9 Ebrill, ac mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.

More News Articles

  —