Rachel ar y rhestr fer am wobr ar ôl gwneud gwelliannau mawr yn ei choleg

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Rachel Lewis - yn frwd o blaid dysgu gydol oes.

Rachel Lewis – yn frwd o blaid dysgu gydol oes.

Mae Rachel Lewis yn cael y prif glod am wella gwaith cyflenwi cymwysterau sgiliau hanfodol yn Uned Brentisiaethau Coleg Pen-y-bont dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

A hithau’n awyddus iawn i barhau â’i datblygiad proffesiynol, dywed Rachel mai ei chefndir ym myd gofal sy’n ei helpu i fynd yr ail filltir a thynnu’r gorau o’r cannoedd o brentisiaid y mae wedi’u cymryd o dan ei hadain.

Mae Rachel wedi meithrin pob math o ddysgwyr, o Brentisiaid Sylfaen ag anghenion dysgu penodol i brentisiaid sy’n uwch-arweinwyr gyda chwmnïau fel Tata Steel a llwyddodd 90% o’i dysgwyr i gwblhau eu cymhwyster yn 2017-18.

Trwy weithio mewn ffordd hyblyg, gall ymwneud yn llwyddiannus â’r gwahanol garfannau o brentisiaid ac, yn bwysig iawn, â’u cyflogwyr hefyd.

Yn awr, cafodd gwaith Rachel ei gydnabod gan iddi gyrraedd rhestr fer Gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Mae Rachel yn gweithio’n fanwl ac yn ddiflino ac mae’n benderfynol o sicrhau bod yr holl brentisiaid yn gwella’u sgiliau ac yn ennill eu cymwysterau,” meddai Matt Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Pen-y-bont.

Mae’r llwybr a gymerodd Rachel, sy’n 33 oed, i ddod yn diwtor uchel ei pharch yn enghraifft o’r ffordd y gall dysgu seiliedig ar waith ysbrydoli ac annog rhywun i ddilyn gyrfa newydd.

Mae datblygiad Rachel ei hunan yn esiampl ar gyfer ei gwaith gydag eraill. Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae wedi sicrhau’r cymwysterau hyn: Dyfarniad Asesu TAQA L3, IQA TAQA L4, Tystysgrif Addysg I Raddedigion (TAR), Llythrennedd Digidol Lefel 2 ac Ymarferwr Llythrennedd Digidol Lefel 3. Ar hyn o bryd, mae’n gwneud Diploma Rheoli ac Arwain Lefel 5.

“Rwy’n frwd o blaid dysgu gydol oes,” meddai Rachel. “Bedair blynedd yn ôl, gofalwr oeddwn i, ag awydd mawr i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill. Trwy weithio yng Ngholeg Pen-y-bont rwy wedi cael gwneud hynny, gan helpu cannoedd o ddysgwyr i gael gwell dyfodol iddyn nhw a’u cyflogwyr.

“Mae fy natblygiad parhaus i wedi fy helpu i ddeall anghenion dysgwyr unigol, gan fy ngwneud yn well tiwtor a fy helpu i arloesi wrth ddysgu ac asesu.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Rachel a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.”

More News Articles

  —