Humie’r ymgyrchwraig yw cadeirydd newydd grŵp cynghori ar anableddau dysgu

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Humie Webbe gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Humie Webbe gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am elwa ar bron 30 mlynedd o brofiad o ymgyrchu dros grwpiau pobl ddifreintiedig trwy benodi Humie Webbe yn gadeirydd y Grŵp Gweinidogol Ymgynghorol ar Anabledd Dysgu (GGYAD).

Mae’r grŵp yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n dylanwadu ar fywydau pobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru a’r rhai sy’n eu cefnogi.

Daw aelodau’r Grŵp o nifer o wahanol gefndiroedd, yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, ymchwil, y sector gwirfoddol a chynrychiolwyr rhieni/gofalwr ac mae’n helpu i lunio polisïau a dulliau gweithio yng Nghymru trwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd ac ymwneud â’r gymuned. Sefydlwyd y Grŵp yn 2012 ac mae’n cyfarfod bob tri mis.

Mae Humie, sy’n 60 oed ac yn byw ym Mae Caerdydd, yn ymgyrchu dros gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae gan ei mab 31 oed, Saul, anabledd dysgu.

A hithau’n arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Humie’n ymwneud â phobl mewn cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a phobl ag anableddau ledled Cymru ac yn eu hannog i elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau.

Cyn hynny, bu’n gydlynydd cenedlaethol amrywiaeth ar gyfer ymgyrch Mind Cymru, Amser i Newid Cymru, ac mae wedi treulio bron 30 mlynedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector cymunedol.

Dywed ei bod yn anrhydedd olynu’r cyn-Aelod Cynulliad, Gwenda Thomas, fel cadeirydd y Grŵp a’i bod yn edrych ymlaen at ei chyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr. “Cefais fy mhenodi oherwydd fy nghefndir yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, sef rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano,” esboniodd.

“Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi clywed am fy ngwaith gyda’r NTfW ar faterion cynhwysiant a chynyddu’r cyfleoedd i bobl anabl a bod rhywun wedi fy argymell wrth y Prif Weinidog a’i dîm gweinidogol.

“Cefais wybod eu bod yn chwilio am rywun oedd â phrofiad o gadeirio cyfarfodydd, oedd yn deall polisi Llywodraeth Cymru ac a oedd yn gallu rhoi hwb ymlaen i’r Grŵp mewn ffordd gynhwysol.

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi fy nghyd-gadeirydd o Pobl yn Gyntaf Cymru yn ei gwaith. Sefydlwyd y Grŵp i gyfrannu at bolisïau Llywodraeth Cymru trwy gynnwys pobl ag anableddau dysgu sydd i fod i elwa ar eu rhaglenni.

“Mae’n bwysig sicrhau bod pawb yn cael dweud eu dweud. Rwy wedi gorfod brwydro i fy mab gael y cymorth gorau posibl iddo ef trwy’r ysgol a’r coleg ac felly rwy’n gwybod pa mor anodd yw hi i deuluoedd ddarparu gwasanaethau ar gyfer eu plant.

“Rwy hefyd yn deall y ffordd y mae’n rhaid i chi weithio er mwyn sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael dweud eu dweud. Mae pobl yn mynegi eu hunain mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae’n rhaid i chi eu galluogi i wneud hynny. Mae’r grŵp hwn yn ffordd wych o sicrhau bod gan bobl sydd ag anableddau dysgu ffordd o gyfathrebu.”

Un o dasgau allweddol y Grŵp yw darparu cefnogaeth ac arweiniad strategol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ran eu Rhaglen Gwella Bywydau, a lansiwyd y llynedd i wella bywydau plant ac oedolion yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu.

“Y syniad yw sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu’n cael eu cynnwys ac yn cael dweud eu dweud am bolisïau a gwasanaethau sy’n effeithio arnynt,” meddai Humie. “Mae’r Rhaglen Gwella Bywydau’n edrych ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn dilyn yr arferion gorau, yn enwedig o ran materion diogelu a chyllido ym meysydd addysg, gwaith a thai.”

Yn ystod ei bywyd gweithiol, mae Humie wedi ymroi i helpu i roi llais i bobl o gymunedau BAME ac fe gafodd ei hymdrechion diflino eu cydnabod â dwy wobr o bwys yn gynharach eleni.

Yng Ngwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA), roedd yn gyd-enillydd ‘Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol’ EMWAA ac enillodd un o dair Gwobr Llysgennad Rhodri Morgan.

More News Articles

  —