Ysbrydoli’r Peirianwyr Yfory: Lansiad Menter Rhyngweithiol ‘Archwilio Peirianneg’ gan y PDSR ar draws De Orllewin Cymru
Mae Peirianneg yn sector sy’n ffynnu ar draws De-orllewin Cymru, gyda galw mawr am weithwyr medrus, ac mae’n cynnig rhagolygon gyrfa cyffrous. Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi bod yn gweithio ar ffyrdd o arddangos y cyfleoedd a’r llwybrau peirianneg sydd ar gael, ac rydym wedi datblygu gwefan gynhwysfawr arhyngweithiol sy’n edrych ar y cyfleoedd yn y sector peirianneg, ochr yn ochr â fideos difyr am brofiadau’r dysgwyr ifanc gyda busnesau yn y rhanbarth.
Yr hydref hwn, mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, mewn partneriaeth â busnesau ac ysgolion lleol, wedi bod yn ysbrydoli peirianwyr y dyfodol. Rydym wedi lansio ein wefan ‘Gweithio ym maes Peirianneg’ rhyngweithiol newydd ac wedi cynnal sioeau teithiol sydd nid yn unig yn amlygu’r sector peirianneg ond sydd hefyd yn darparu profiadau ymarferol i bobl ifanc. Y nod yw ysbrydoli dysgwyr ifanc ac oedolion i ystyried peirianneg fel dewis gyrfa, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o anghenion y sector nawr ac yn y dyfodol o ran sgiliau.
Mae dysgwyr o Ysgol Bryngwyn, Ysgol Harri Tudur, Ysgol Ystalyfera, Bro Dur ac Ysgol Olchfa wedi cael profiad o fyd peirianneg drwy wahanol fusnesau yn y sector, a oedd yn cynnwys Qualitek, Ledwood, OCU Hornbill a C&P Engineering. Clywodd y ddysgwyr gan arbenigwyr yn y diwydiant am bwysigrwydd peirianneg yn y byd Heddiw a chawsant gyfle i archwilio ein gwefan newydd ‘Explore Engineering’. Yn ddilyn hyn, cafodd y bobl ifanc gyfle hyd yn oed i gael blas ar fyd peirianneg drostynt eu hunain yn y gweithdai, i roi cynnig ar yr offer, ac i brofi peirianneg yn y byd rhithwir.
Dangosodd y dyfyniad hwn gan Ysgol Olchfa pa mor llwyddiannus fu’r digwyddiadau:
“Mae ymweld â diwydiant yn rhoi persbectif go iawn i’n myfyrwyr, gan bontio’r bwlch rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a gwaith ymarferol. Mae’n eu helpu i ddeall sut mae cysyniadau sy’n cael eu dysgu yn y dosbarth yn cael eu defnyddio mewn amgylcheddau gwaith, gan ysbrydoli arloesi a’u paratoi ar gyfer heriau eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Roedd hwn felly yn brofiad amhrisiadwy i’n myfyrwyr yn Olchfa a byddwn yn bendant yn achub ar unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol.”
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru
More News Articles
« Prentis yn profi twf personol a phroffesiynol gyda chymhwyster TG — Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru: Adolygiad Blwyddyn 2024 »


