Pum prosiect peilot ychwanegol yn cael eu cymeradwyo a fydd yn rhoi sgiliau i baratoi pobl ifanc at waith

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

RLSPSWW logo

Mae rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gam arall ymlaen i helpu miloedd o fyfyrwyr lleol i baratoi ar gyfer cyfleoedd swyddi sydd ar y gweill ar draws y rhanbarth. Gyda’r prosiect peilot cyntaf eisoes ar waith yn llwyddiannus, mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol bellach wedi cymeradwyo pum cais peilot arall a fydd yn helpu i ddiogelu gweithlu’r rhanbarth yn y dyfodol.

Wedi’u gosod yn ddaearyddol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe bydd y pum prosiect peilot sydd newydd eu cymeradwyo yn gobeithio sicrhau’r rhagolygon gorau posibl i lawer o bobl leol a chreu sicrwydd swyddi i genedlaethau’r dyfodol drwy sicrhau bod ganddynt y gofynion hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i gyd-fynd â’u dyheadau. Bydd gan bob un o’r pum peilot gysylltiadau agos â sawl prosiect y Fargen Ddinesig a fydd yn sicrhau’r budd mwyaf posibl ar draws y rhanbarth.

Dan arweiniad cwmni Cyfle, sy’n arbenigo ar ddarparu Sgiliau Adeiladu, bydd y prosiect codi ymwybyddiaeth o Garbon Isel a Charbon Sero Net yn cael ei roi ar waith ar draws y rhanbarth cyfan. Gyda chysylltiadau agos â nifer o brosiectau’r Fargen Ddinesig, ei nod yw codi ymwybyddiaeth o dechnolegau carbon sero a charbon isel yn y sector adeiladu drwy gyflwyno hyfforddiant lleihau carbon sy’n berthnasol i’r diwydiant. Bydd yn gweithio gyda phrentisiaid a hyfforddeion yn ogystal â disgyblion ysgol ym mlwyddyn 10 ac 11 sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu.

Mae’r ail beilot, a elwir yn Sgiliau Gweithgynhyrchu Batris, yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad sefydliadau’r sector preifat a bydd hefyd yn cyfrannu at nifer o gyfleoedd prosiect y Fargen Ddinesig. Bydd y peilot hwn yn adeiladu ar y bylchau mewn sgiliau o ran gweithgynhyrchu batris a’r gadwyn gyflenwi drwy ddarparu hyfforddiant, gwella sgiliau, ac ailsgilio i fyfyrwyr medrus iawn a’r gweithlu lleol wrth i’r sector hwn barhau i esblygu a thyfu.

Gan weithio gyda dysgwyr ar draws Sir Gaerfyrddin a dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin ochr yn ochr â’r arbenigwyr adeiladu, Bouygues UK, bydd peilot Sgiliau’r 21ain Ganrif yn datblygu profiadau cysylltiedig â gwaith i ddisgyblion oed cynradd ac uwchradd. Bydd ffocws penodol ar weithio tuag at sero-net yn y diwydiant adeiladu a’r sgiliau sydd eu hangen i ateb her yr argyfwng hinsawdd.

Y prosiect nesaf, sy’n cael ei gynnal i’r dwyrain o’r rhanbarth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw peilot y Sector Digidol a fydd yn canolbwyntio ar yr angen am well sgiliau digidol yn y diwydiant creadigol ar gyfer dysgwyr cyn ac ôl-16 oed yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Y prosiect olaf yw Meithrin Iechyd a Llesiant mewn Byd Digidol. Gan dargedu ysgolion yn benodol yn ninas Abertawe, ei nod yw addysgu disgyblion 3-16 oed am y sectorau gwyddor bywyd, iechyd a chwaraeon gan gynnwys datblygu technolegau newydd i gefnogi ffordd iach a chytbwys o fyw.

Ychwanegodd Barry Liles, Arweinydd Strategol y Rhaglen Sgiliau a Thalentau “Mae mor braf gweld y prosiectau peilot Sgiliau a Thalentau yn dwyn ffrwyth ac er eu bod yn y cyfnod cynnar iawn rydym yn gweld yr effaith y maent eisoes yn ei chael. Mae llawer o’r prosiectau yn targedu gweithlu’r dyfodol, gyda diddordeb sylweddol gan ddisgyblion ysgol a chydweithio ardderchog gydag ystod eang o gyflogwyr.

Mae prosiectau hefyd yn datblygu atebion hyfforddi arloesol a fydd yn cefnogi datblygiad gweithwyr i fynd i’r afael â thechnolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae’r rhaglen hon ar y trywydd iawn i gyflawni amcanion Bargen Ddinesig Bae Abertawe.”

Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —