AI ac Awtomeiddio yn hoelio’r sylw wrth i’r Dirprwy Weinidog ymuno â’r Digwyddiad Rhanbarthol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Image advertising event

AI ac Awtomeiddio: Chwyldro Cynhyrchiant
Dyddiad: Dydd Iau 22 Hydref 2026
Amser: 9:30 14:30
Lleoliad: Swansea.com Stadium

Mae’n bleser gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) gyhoeddi y bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, yn ymuno â’r Digwyddiad AI ac Awtomeiddio: Chwyldro Cynhyrchiant yn Stadiwm Swansea.com ar 22 Hydref.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn annerch cyflogwyr ac arweinwyr busnes o bob rhan o Dde Orllewin Cymru, gan dynnu sylw at fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn sgiliau a’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu busnesau i groesawu arloesedd, rhoi hwb i gynhyrchiant a sbarduno twf economaidd rhanbarthol.

Mewn cyfnod pan fo deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio yn trawsnewid diwydiannau, bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i enghreifftiau o’r byd go iawn o fusnesau sy’n defnyddio AI yn llwyddiannus i weithio’n ddoethach, gwella effeithlonrwydd a datblygu gweithluoedd sy’n barod i’r dyfodol.

Gwahoddir cyflogwyr, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant i ymuno â’r sgwrs, dod i wybod am y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer economi’r dyfodol a bwrw golwg ar sut y gall technolegau newydd greu cyfleoedd newydd ar gyfer twf.

Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i glywed gan arbenigwyr, busnesau a llunwyr polisi sy’n llunio dyfodol cynhyrchiant yn Ne Orllewin Cymru.

Archebwch eich lle

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —