Ers i ni gyhoeddi’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau nôl yn 2019 mae newid aruthrol wedi bod yn y ffordd mae pobl yn gweithio; y mathau o swyddi sydd ar gael ac yn bwysicach efallai y sgiliau sydd eu hangen bellach ar ddiwydiant i symud eu busnesau ymlaen mewn byd ar ôl y pandemig.
Drwy gydol yr haf mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi bod yn gweithio ar Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar ei newydd wedd, nod sylfaenol y cynllun yw nodi blaenoriaethau cyflogaeth a sgiliau dros y tymor byr, canolig a hirdymor i ddatblygu potensial cymdeithasol ac economaidd yr economi ranbarthol.
Dros y misoedd diwethaf rydym wedi dod â chyflogwyr lleol, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid eraill ynghyd i helpu i ddatblygu’r cynllun, rydym hefyd wedi bod mewn ymgynghoriad â channoedd o fusnesau o bob rhan o’r rhanbarth nid yn unig trwy ein harolwg sgiliau ar-lein ond trwy ein grwpiau clwstwr yn y sector diwydiant a nifer o ffeiriau swyddi.
Bydd y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ddechrau mis Hydref, ac mae digwyddiad lansio ar y gweill ar gyfer mis Tachwedd – felly cadwch lygad am eich gwahoddiad.