RomArchive yn ennill gwobr bwysig yng Ngwobrau Treftadaeth Ewrop

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cafwyd cyfle i ddathlu gydag enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra 2019, prif anrhydedd Ewrop ym maes treftadaeth, mewn Grande Soirée du Patrimoine Européen yn y Théâtre du Châtelet, Paris, ar ei newydd wedd.

RomArchive – Archif Ddigidol y Roma oedd yr enillwyr yn y dosbarth ‘Ymchwil’. Archif ddigidol ryngwladol ar gyfer celfyddydau’r Romani yw RomArchive – casgliad sy’n tyfu’n gyson o bob math o gelfyddydau, ynghyd â dogfennau hanesyddol ac academaidd. Trwy ddefnyddio’r archif hon, gall y Roma adfer a llywio’r naratif am eu cymuned.

copyright Apolline Cornuet


Llun trwy garedigrwydd Apolline Cornuet / Europa Nostra

Bu Isaac Blake, cyfarwyddwr Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol y Romani o Gaerdydd, yn arwain tîm o academyddion ac ymchwilwyr i gasglu eitemau addas ar gyfer y RomArchive. Tra bod archifau “hegemonaidd” bron bob amser wedi stereoteipio’r Roma, mae’r RomArchive yn canolbwyntio ar eu portreadu o’u safbwynt eu hunain: Bydd naratifau newydd yn datblygu, gan adlewyrchu hunaniaethau cenedlaethol a diwylliannol amrywiol y Roma. Bydd cyfoeth eu cynnyrch artistig a diwylliannol yn weladwy ac ar gael i bawb ei weld – mae’n gydgysylltiedig â chynnyrch Ewrop gyfan, yn mynd yn ôl ganrifoedd ond yn fywiog ac amrywiol hyd heddiw. Trwy wneud hyn, mae’r prosiect yn ymdrechu i fynd i’r afael â stereoteipiau parhaus a rhagfarnau dyfnion.

Felly mae RomArchive yn cael ei anelu, nid yn unig at leiafrif mwyaf Ewrop, ond hefyd at fwyafrifoedd cymdeithasol Ewrop.

Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Romani Cultural and Arts Company

Dywedodd Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Romani Cultural and Arts Company: “Rwy wrth fy modd ein bod yn arweinwyr allweddol yn y RomArchive a’n bod wedi datblygu cyfraniad arwyddocaol trwy ein Harchif Ddawns. Mae hwn yn ddarn o waith pellgyrhaeddol.”

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, “Caiff diwylliant ei atgyfnerthu gan brofiadau amrywiol a chreadigrwydd pob rhan o’r gymdeithas gyfoes.  Er gwaethaf globaleiddio – neu efallai oherwydd globaleiddio – cawn ein hunain yn byw mewn cymdeithas fwyfwy darniog lle gallwn ymddangos yn gul, yn grintachlyd ac yn anhapus yn ein crwyn ein hunain.  Mae cynllun RomArchive yn ein hatgoffa mewn ffordd bwysig ac amserol pa mor ddeinamig yw traddodiadau’r Roma.  Mae cymdeithas deg a goddefol yn cydnabod creadigrwydd ei holl ddinasyddion.  Mae’n braf i ni gael cydnabod y dathliad hwn o greadigrwydd a hunaniaeth cymuned a anwybyddir yn aml.” 

Dywedodd Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, y mae ei gwaith yn cynnwys y gymuned Romani, “Llongyfarchiadau i’r Romani Cultural and Arts Company am eu gwaith rhagorol yng Nghymru a ledled Ewrop yn datblygu RomArchive. Mae hyrwyddo gwaith Cymry sy’n rhan o’r gymuned Romani, fel Howell Wood, yn ffordd ardderchog o dynnu sylw at gyfraniadau’r gymuned. Mae’r celfyddydau’n ein helpu i ddathlu amrywiaeth ac maent yn chwalu amheuaeth, anwybodaeth a rhagfarn; mae ganddynt ran bwysig i’w chwarae’n creu cymdeithas sy’n fwy teg, cyfartal a goddefgar.

“Fis Mehefin diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr gyda’r nod o fynd i’r afael â rhai o’r anghyfiawnderau sylfaenol y mae’r cymunedau hyn yn eu hwynebu. Wrth gyhoeddi’r Cynllun, roeddem yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wella cydraddoldeb, cynnig cyfleoedd a lleihau’r bylchau a wynebir gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru.”

www.romaniarts.co.uk

More News Articles

  —