Ryan, prentis gyda Ford, ar restr fer gwobr genedlaethol

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Ryan Brown yn awyddus i ddysgu.

Ryan Brown yn awyddus i ddysgu.

Roedd Ryan Brown yn weithredydd cynhyrchu ac arweinydd tîm gyda chwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a phan ddaeth ei swydd i ben, gwelodd hyn fel cyfle euraid i ailhyfforddi.

Llwyddodd i gael prentisiaeth ar raglen hyfforddi trydanwyr Ford ac erbyn hyn mae wrth ei fodd yn ei swydd newydd yn rhaglennu robotiaid ac yn gweithio gyda nhw, yn trefnu i drwsio dyfeisiau sy’n torri ac yn canfod ffyrdd o arbed arian i’r cwmni.

Mae Ryan, 26 oed, sy’n byw ym Mhorthcawl, wedi helpu i sefydlu adran Technolegau Datblygol ar safle injans y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n chwarae rhan arweiniol ym maes gweithgynhyrchu trwy “ychwanegu haenau”. Mae’r adran yn ceisio lleihau costau a defnyddiodd Ryan argraffydd 3D i wneud un darn y disgwylir iddo arbed £29,340 y flwyddyn i’r cwmni.

Yn awr, cafodd ei ymdrechion eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Cyn dechrau ar ei brentisiaeth, roedd Ryan wedi ennill Tystysgrif Addysg Uwch mewn Peirianneg Electronig a Pheirianneg Systemau Cyfathrebu o Brifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae wedi dechrau ar ei bedwaredd flwyddyn o hyfforddiant, y flwyddyn olaf, ar Brentisiaeth Cynnal a Chadw Trydanol. Yr haf nesaf, bydd Ryan yn cwblhau blwyddyn olaf ei HNC mewn Peirianneg Drydanol yng Ngholeg Pen-y-bont a’i radd BEng mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Ar ôl hynny, ei nod yw gwneud Gradd Meistr mewn Peirianneg.

“Roeddwn yn ddigon lwcus i gael fy nerbyn yn brentis ac ers hynny rwy wedi manteisio ar bob cyfle i ddysgu a deall mwy am brosesau gweithgynhyrchu datblygedig a’r systemau cysylltiedig,” meddai Ryan, sy’n gwneud gwaith gwirfoddol yn ei amser hamdden.

Dywedodd Alison Bladon, swyddog adnoddau dynol cwmni Ford ym maes dysgu a datblygu: “Mae gan Ryan ddiddordeb byw mewn awtomeiddio, technolegau digidol, argraffu 3D a rhith-wirionedd, pob un ohonynt yn bethau pwysig a fydd yn helpu’r cwmni yn y dyfodol ac yn ei helpu ef i symud ymlaen yn ei yrfa.”

Wrth longyfarch Ryan ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —