Sêr Dysgu Seiliedig ar Waith ar restrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yr arweinydd dysgu, Alex Laurie gyda’r prentisiaid, Rhydian Price a Charlotte Clissold o Dow Silicones UK Limited yn y Barri, a gyrhaeddodd rownd derfynol y categori Cyflogwr Mawrth y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 36 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi cyrraedd rhestrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
 
“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol o anodd ond rydym wedi gweld pobl ar eu gorau hefyd, wrth iddynt ddangos bod ganddynt y ddawn, y sgiliau a’r ymroddiad i lwyddo eu hunain ac i gefnogi eraill.
 
“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac yn galluogi pobl i ennill cyflog wrth ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd. Credaf y byddant yn chwarae rhan hollbwysig yn ein helpu i ddod dros effeithiau’r coronafeirws.
 
“Rydyn ni fel llywodraeth eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. Diolch i waith Llywodraeth Cymru, rydym yn rhoi profiadau pwysig i brentisiaid a hyfforddeion o bob oed gan sicrhau bod cwmnïau yn holl sectorau’r gymuned fusnes yn elwa yn awr ac i’r dyfodol. Rwy’n falch iawn o hynny.”

Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru: “Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi’r digwyddiad gwych hwn eto eleni a hoffem longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion.

“Bu prentisiaethau’n rhan allweddol o strategaeth recriwtio Openreach erioed. Yn ogystal â dod ag egni, cyffro a brwdfrydedd i’n busnes, maen nhw’n dod â sgiliau newydd, profiadau newydd a syniadau newydd. Pob hwyl i bawb sydd yn y rownd derfynol.”

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau mewn pedwar categori. Dyma’r rhai sydd yn y rownd derfynol: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 i 49 o weithwyr): Compact Orbital Gears, Rhaeadr Gwy; Wales England Care Limited, Casnewydd a Thomas Skip and Plant Hire, Caernarfon. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 i 249 o weithwyr): Andrew Scott Limited, Port Talbot; Convey Law, Casnewydd a Cambria Maintenance Services Limited, Ewlo. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999 o weithwyr): Heddlu Dyfed Powys, Caerfyrddin; Aspire Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, a Dow Silicones UK Limited, Barry. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000+ o weithwyr): Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cwm Clydach a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Baglan.

Mae’r ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am ddwy wobr: Yn y rownd derfynol mae: Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Matt Redd, o Gaerdydd sy’n gweithio i Sgil Cymru, Rebecca Strange o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd sy’n gweithio i Educ8 Group a Lydia Harris o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio i JGR Training. Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Stephanie Fry o Wales England Care, Casnewydd, Hannah Kane-Roberts o Sblot, Caerdydd sy’n gweithio i Itec a Karen Richards o’r Coed Duon sy’n gweithio i ACT, Caerdydd.

Mae pedwar categori ar gyfer y gwobrau i brentisiaid. Yn y rownd derfynol mae: Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Bethany Mason, 21, Llantrisant; Stevie Williams, 36, o Goetre, Port Talbot a Joel Mallison, 30, o’r Fenni. Prentis y Flwyddyn: William Davies, 20, Aberdâr; Owain Carbis, 19, Draenen Pen-y-graig, Caerdydd; Owen Lloyd, 23, Coed y Cwm, Pontypridd. Prentis Uwch y Flwyddyn: Natalie Morgan, 33, Penarth; Rhyanne Rowlands, 38, Aberdâr; Ciara Lynch, 22, Treforys, Abertawe.

Cyflwynwyd y wobr “Doniau’r Dyfodol” yn 2019 gan ofyn i gyflogwyr enwebu prentisiaid presennol sy’n disgleirio. Yn y rownd derfynol mae Sophie Williams, 21, o Hirwaun, sy’n gweithio i wasanaeth maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Connor Paskell, 21, o Lantrisant, sy’n gweithio i British Airways Avionic Engineering, Llantrisant a Ryan Harris, 21, o’r Ddraenen Wen, Pontypridd sy’n gweithio i Renishaw plc, Meisgyn.

Mae’r categori cyflogadwyedd yn cydnabod dysgwyr mewn dau gategori. Yn y rownd derfynol mae: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Jessica Apps, 19, o Forge Side, Blaenafon; Ross Vincent, 18, o Ddoc Penfro a Lewis O’Neill, 17, Garden City, Glannau Dyfrdwy. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Thibaud Gailliard, 21, o Lyn Ebwy; James Hopkins, 20, o Beachley, Cas-gwent a Chloe Harvey, 19, o Gil-maen, Sir Benfro.

llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru

More News Articles

  —