SkillsCymru – Hydref 2019

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ymhen dim ond chwe mis, bydd SkillsCymru yn ôl yn Arena Motorpoint, Caerdydd ac yn Venue Cymru, Llandudno. Anelir y ddau ddigwyddiad at bobl ifanc 14-21 oed, eu hathrawon, eu rhieni a phobl eraill ddylanwadol yn eu bywyd ac maent yn gyfle unigryw i gyfarfod â miloedd o bobl, o dan yr un to, sy’n ystyried pa yrfa i’w dilyn ac yn paratoi at fyd gwaith.

Daeth mwy nag erioed o ymwelwyr i’r digwyddiadau yn 2018. Roedd y sesiynau gyda’r nos yn arbennig o lwyddiannus. Y nod oedd rhoi gwybod i rieni a gofalwyr am amrywiaeth y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru a llwyddwyd i gyrraedd 1,836 o rieni, gofalwyr a’u plant yng Nghaerdydd a 925 o rieni, gofalwyr a’u plant yn Llandudno.

Croesawyd cyfanswm o 8,482 o ymwelwyr yng Nghaerdydd dros ddau ddiwrnod ac un noson a 2,526 o bobl mewn un diwrnod ac un noson yn Llandudno a chawsant eu hysbrydoli gan arddangoswyr oedd yn cyflwyno pob math o yrfaoedd.

Dyma ymateb un rhiant: “Rwy wedi dysgu fy meibion gartref erioed. Roeddwn i’n sylweddoli bod arnyn nhw angen rhyw fath o help i ddewis gyrfa ac roedd yn rhyddhad i mi gael dod yma. Roedd un sgwrs a gawson ni gyda chwmni ddoe yn fuddiol iawn. Mae’n fwy na thebyg na fyddai wedi ymddangos wrth iddyn nhw chwilio ar y we am swyddi a fyddai o ddiddordeb iddyn nhw. Diolch am y digwyddiad hwn. Mae wedi bod o help mawr i fy meibion.”

Roedd yr effaith ar bobl ifanc yn amlwg hefyd. Dywedodd 55% ohonynt eu bod yn ansicr am eu dyfodol cyn dod i’r digwyddiad a dywedodd 97% eu bod yn teimlo’n gyffrous, yn hyderus neu’n gliriach eu meddwl ar ôl bod.

Roedd 121 o sefydliadau’n arddangos yn SkillsCymru yn 2018, gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, prifysgolion, colegau a gwahanol sectorau diwydiant yn ymuno i ysbrydoli darpar weithlu Cymru. Dyma rai o’r ymatebion:

  • “Roedd yn wych cael rhannu cyfleoedd a hyrwyddo busnesau yng Nghymru.” Alex Laurie, Dow Silicones
  • “Llawer o bobl ifanc frwd yn dangos diddordeb. Roedd yn gymaint o ysbrydoliaeth i ni ag oedd iddyn nhw.” Emme Pallen, Medical Mavericks
  • “Cyfle gwych i sôn wrth fyfyrwyr am fanteision addysg uwch ac am y gwahanol gyrsiau sydd ar gael.” Iwan Hopkins, Prifysgol Caerdydd
  • “Digwyddiad gwych, wedi’i drefnu’n dda ac yn gyfle arbennig i gyflwyno’n gwasanaethau i gynulleidfa berthnasol.” t2 Group

Os hoffech gymryd rhan yn SkillsCymru 2019, gallwch gysylltu â gabrielle.mcevans@prospects.co.uk neu paige.davey@prospects.co.uk neu ffonio 01823 362800.

SkillsCymru

More News Articles

  —