Gwobr o bwys i Sophie sy’n credu’n gryf yng ngwerth maethu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sophie Williams, enillydd gwobr Doniau’r Dyfodol.

Mae Sophie Williams, a benderfynodd newid cwrs ei gyrfa ar ôl gweld y lles y mae maethu’n gallu ei wneud, wedi ennill gwobr Doniau’r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Bwriad Sophie, 24, sy’n byw yn Hirwaun, oedd mynd yn athrawes tan iddi gael profiad o werth maethu pan ddechreuodd ei mam, Lesley, gymryd plant maeth. Gwelodd y lles y gall maethu ei wneud i fywydau plant a’u rhieni biolegol sy’n cael cyfle i roi trefn ar eu bywydau.

Ei nod erbyn hyn yw bod yn weithiwr cymdeithasol ar ôl ymuno ag Adran Faethu Cyngor Rhondda Cynon Taf fel prentis yn 2019 a chael ei dyrchafu’n swyddog recriwtio rhanbarthol yn ddiweddar.

Wrth ymateb i wobr Doniau’r Dyfodol, dywedodd Sophie: “Mae’n deimlad hyfryd bod fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod. Cefais fy enwebu am y wobr gan fy rheolwr heb i mi wybod. Un peth yw cael eich gwerthfawrogi gan eich rheolwr; mae ennill y wobr yn mynd â’r peth i lefel arall.

“Y brentisiaeth yw’r peth gorau i mi ei wneud, yn ddi-os. Does dim i’w gymharu â’r profiad o ddysgu a’r cyfleoedd rwy wedi’u cael wrth wneud y brentisiaeth.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Ar ôl graddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Abertawe, bwriad Sophie cyn ymuno ag Adran Faethu RhCT oedd gwneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion.

Yn ei gwaith, bu’n trafod gyda phobl sy’n dymuno bod yn rhieni maeth ac yn ymweld â nhw. Bu hefyd yn paratoi llyfrau taith bywyd ar gyfer plant maeth, i’w helpu i ddeall pam y maent mewn gofal. Bu ar secondiad hefyd, yn gofalu am blant agored i niwed a phlant heriol yn y gwasanaethau preswyl.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes, a drefnwyd gan Goleg y Cymoedd, gobaith Sophie yw mynd yn ôl i’r brifysgol yn y dyfodol i wneud Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.

Dywedodd Alastair Cope, rheolwr datblygu rhanbarthol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fod Sophie’n “ysbrydoliaeth” ac roedd yn llawn canmoliaeth i’r ffordd y mae’n cefnogi pobl ifanc sydd mewn gofal.

“Mae wedi cyflawni llawer iawn mewn amser byr,” meddai. “Heb gefnogaeth Sophie a’i pharodrwydd i daclo unrhyw dasg, gallem fod wedi cael trafferth cynnal rhai o’n gwasanaethau yn ystod y pandemig.”

Wrth longyfarch Sophie, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —