Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru fis diwethaf mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru.

Mae’r ymgynghoriad yn holi barn pobl am strwythur Fframweithiau Prentisiaethau Cymru, ynghyd â’r llwybrau ategol.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru fod ‘datblygu sgiliau’ yn un o’u blaenoriaethau allweddol ac maent yn ailwampio’r sefyllfa o ran sgiliau er mwyn helpu dysgwyr hen ac ifanc i ganfod cyfleoedd i ymateb i heriau economi gyfnewidiol.

Mae sicrhau bod prentisiaethau’n cwrdd ag anghenion economi Cymru yn ganolog i’w polisi sgiliau ac maent yn adeiladu system sgiliau a all ymateb yn fwy effeithiol i newidiadau mewn diwydiant.

Dyma’r blaenoriaethau ar gyfer prentisiaethau:

  • Buddsoddi mewn sgiliau lefel uwch, yn enwedig mewn meysydd technegol a STEM;
  • Hybu cynhwysiant, cydraddoldeb a chyfle cyfartal;
  • Ymateb i fylchau presennol a disgwyliedig mewn sgiliau; a
  • Cyflenwi prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu yn ddwyieithog.

A hwythau’n gorff o aelodau, roedd yn bwysig i NTfW ymgynghori â’u haelodau a chyflogwyr er mwyn paratoi ymateb i’r ymgynghoriad. Cynhaliwyd tri digwyddiad rhanbarthol, yn Llandrindod, Caerdydd a Llandudno, i roi cyfle i’r aelodau a’u cyflogwur drafod y cwestiynau a ofynnwyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau NTfW, Jeff Protheroe, “Bu’r tri digwyddiad ymgynghori’n eithriadol o fuddiol o ran datblygu tystiolaeth ar gyfer ein hymateb ni i’r ymgynghoriad hwn sydd mor bwysig. Roedd yn wych gweld ein haelodau ni a llawer o wahanol gyflogwyr yn cydweithio i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. O weld pa mor llwyddiannus oedd y digwyddiadau hyn, mae’n amlwg y bydd gan NTfW ran i’w chwarae yn cynnwys cyflogwyr yn y drafodaeth am brentisiaethau a pholisïau sgiliau yng Nghymru.”

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd NTfW yn trefnu rhagor o ddigwyddiadau rhanbarthol i roi cyfle i’w haelodau a chyflogwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ym myd dysgu seiliedig ar waith a’r cyfle i rwydweithio â phobl o’r un fryd.

More News Articles

  —