Rhaglen Brentisiaethau’n gwella cydraddoldeb yng ngweithlu bwrdd iechyd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr ehangu mynediad a chynhwysiant yn y gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Marie-Andree Lachapelle, gyda’r cydlynydd datblygu staff a phrentisiaid, Abbie Finch, a Bethany Jones, cyn-brentis sy’n oruchwylydd meddygol a deintyddol ôl-raddedig erbyn hyn.

Cymru iachach a mwy cyfartal yw’r nod i Raglen Brentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae gwella cydraddoldeb yn y gweithlu’n rhan hanfodol o Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Bwrdd Iechyd a bwriedir sicrhau hyn, yn rhannol, trwy recriwtio prentisiaid.

Er gwaethaf heriau pandemig Covid-19, mae gan y Bwrdd Iechyd 29 o brentisiaid a 18 arall yn disgwyl dechrau.

Ers 2016, mae wedi recriwtio 215 o brentisiaid, gan gydweithio â’r darparwyr hyfforddiant Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Gŵyr Abertawe, ac mae’n cynnig 17 o Fframweithiau Prentisiaethau o Lefel 2 i fyny, yn amrywio o Gymorth Patholeg i Beirianneg Electronig.

Oherwydd ei ymroddiad i brentisiaethau, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Academi Prentisiaid y Bwrdd Iechyd yn cynnig cyfle i ‘brofi cyn prynu’ sy’n golygu y caiff dysgwyr newid eu llwybr dysgu i ddilyn cwrs mwy addas.

Dywedodd y cydlynydd datblygiad staff a phrentisiaid Abbie Finch: “Rŷn ni’n tanlinellu wrth ein staff pa mor bwysig yw ‘gwella’n barhaus’ ac mae prentisiaethau’n helpu, nid yn unig i greu gweithwyr mwy bodlon, ond hefyd i sicrhau gweithlu mwy cadarn a sefydlog ac mae hynny’n golygu bod y cleifion yn cael gwell gofal.”

Trwy gydweithio ag ysgolion a cholegau lleol, mae’n nod gan y Bwrdd Iechyd gynnig rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau i rai sydd ag anabledd a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod ymhlith ei staff o 12,500.

Mae dyddiau cynefino misol, cyfarfodydd deufisol gyda mentor, sicrwydd o gyfweliadau mewnol, adolygiadau cyrhaeddiad a chynnydd, a phroses newydd ac gyfer adolygu ymadawiadau oll yn rhan o becyn prentisiaethau’r Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Alec Thomas, rheolwr hyfforddiant Pathways gyda Choleg Castell-nedd Port Talbot: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn enghraifft wych o sefydliad sydd wir yn dangos ymrwymiad i ddatblygu ei brentisiaethau.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —