Tim Newydd o Arweinwyr yn y Ffederasiwn Hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith

Cadeirydd newydd NTfW, Wynne Roberts (canol) gyda’r is-gadeirydd Sheridan Jeffrey (dde) a’r prif swyddog gweithredol newydd, Arwyn Watkins.

Mae tîm newydd wedi’i benodi i arwain corff sy’n cynrychioli rhwydwaith o 108 o ddarparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith sydd â chysylltiadau â 36,000 o gyflogwyr ledled Cymru.

Yng Nghyfarfod Blynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn Llanelwedd, daeth Arwyn Watkins o’r gadair ar ôl cyfnod o chwe blynedd. Mr Watkins yw rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng.

Mae’n symud i swydd ran amser newydd, sef prif swyddog gweithredol gyda chyfrifoldeb dros feithrin perthynas â rhanddeiliaid allanol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, er budd pobl sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Wynne Roberts, 58, cyfarwyddwr y cwricwlwm a safonau yng Ngholeg Iâl, Wrecsam yw’r cadeirydd newydd ac mae Sheridan Jeffery, rheolwr canolfan Hyfforddiant Torfaen, Cwmbrân yn camu i’w esgidiau ef fel is-gadeirydd.

Bu Mr Watkins yn aelod o Fwrdd NTfW ers ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl. Mae wedi arwain y Ffederasiwn trwy gyfnod o newid enfawr mewn dysgu seiliedig ar waith ac wedi ennyn parch mawr i’r rhwydwaith yn Llywodraeth Cymru.

“NTfW yw’r ffordd orau o hyrwyddo sgiliau a phrentisiaethau ac, yn fy swydd newydd, byddaf yn canolbwyntio ar adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi’u gosod,” meddai. “Rwy’n hapus iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau parhad, gyda’r is-gadeirydd yn camu i’r gadair. Rwy’n falch hefyd ein bod wedi cadarnhau’r cyfansoddiad newydd gan y bydd hynnny’n help i gynllunio ymlaen llaw ac yn ein gwneud yn sefydliad llawer mwy cynhwysol i aelodau.”

Talodd Wynne Roberts deyrnged i arweiniad Arwyn Watkins a dywedodd bod y ffederasiwn wrth eu bodd i gadw ei brofiad a’i arbenigedd mewn swydd newydd.

“Bu cyfnod Arwyn yn y gadair yn amser cadarnhaol iawn i NTfW ac mae wedi gosod llwyfan lle gall y Ffederasiwn ddylanwadu ar benderfyniadau polisi yn Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Rwy’n ei chyfrif yn fraint fawr i gael gwahoddiad i gynrychioli’r aelodau ledled Cymru. Sefydlwyd NTfW ddeng mlynedd yn ôl a bu’n gyfnod anodd iawn. Serch hynny, rydym wedi gweld gwelliannau mawr yn mherfformiad a llwyddiant darparwyr dysgu seiliedig ar waith, dysgwyr a phrentisiaid.

“O gofio hynny, yr her yw symud ymlaen mewn ffordd a fydd yn gweld NTfW yn tyfu, gan godi safonau a sicrhau ein bod yn dal i wneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru trwy gefnogi cwmnïau.

“Er ein bod yn cydnabod bod arian cyhoeddus yn brin erbyn hyn, mae’n rhaid i ni ddal ati i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau pobl ifanc er mwyn diwallu anghenion cyflogwyr.

“Rydyn ni’n ymdrechu i gefnogi pobl ifanc wrth symud o’r ysgol i waith trwy ddarparu sgiliau a fydd yn caniatáu iddyn nhw ffynnu wrth gystadlu am waith.”

Mae Mr Roberts yn byw yn Hen Golwyn. Mae ei wraig, Olivia, yn gydlynydd ‘dysgu fel teulu’ ac mae ganddynt ddau o blant sydd bellach yn oedolion. Cychwynnodd Mr Roberts ei yrfa fel prentis peirianyddol mewn iard trwsio llongau yng Nghaergybi a chafod brofiad fel rheolwr cynhyrchu mewn ffatri ac yna fel rheolwr hyfforddiant cyn treulio naw mlynedd yn rheolwr dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Llandrillo Cymru. Penodwyd ef i’w swydd bresennol yng Ngholeg Iâl chwe blynedd yn ôl.

More News Articles

  —