Pobl Ifanc Y Rhaglen Arian Am Oes yn Rhoi Cyflwyniad yn y Senedd

Postiwyd ar gan karen.smith

Siaradwyr (rhes flaen o’r chwith) prif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Arwyn Watkins; y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert; cyfarwyddwr ardall (masnachol) Lloyds Banking Group, Allan Griffiths a phrif weithredwr ColegauCymru, Dr John Graystone gyda dysgwyr yn y derbyniad yn y Senedd.

Bu dathliad arbennig yn y Senedd, Caerdydd nos Fawrth yng nghwmni rhai a fu’n rhan o raglen Arian am Oes Lloyds TSB sy’n helpu pobl ifanc i ddysgu sut i drin arian.

Cynhaliwyd derbyniad o dan nawdd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, i dynnu sylw at lwyddiant y rhaglen a ariannir gan y Lloyds Banking Group a’i chynnal yng Nghymru gan ColegauCymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Nod rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB yw meithrin sgiliau rheoli arian mewn hyfforddwyr a dysgwyr yn y sector addysg bellach (AB), yn cynnwys colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a nifer fawr o gyrff sy’n gweithio yn eu cymunedau lleol.

Mae dwy haen allweddol i’r rhaglen: yn gyntaf, meithrin sgiliau pobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac, yn ail, rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau eu hunain.

Mae’r cyrsiau hyfforddi ar gyfer y sawl sy’n gweithio gyda phobl ifanc, Teach Me a Teach Others, yn rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i staff i fynd ati i feithrin gallu ariannol pobl ifanc.

Un agwedd allweddol ar eu llwyddiant fu’r gallu i gyrraedd mudiadau cymunedol amrywiol iawn, fel cymdeithasau tai, Gingerbread, Cymunedau yn Gyntaf, Safonau Masnach, Barnado’s, Undebau Credyd, Cyngor ar Bopeth, yn ogystal â cholegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, ac mae bron 200 wedi’u recriwtio hyd yma.

Erbyn hyn, mae’r staff mewn gwell sefyllfa o lawer i helpu pobl ifanc i ddysgu am reoli arian.

Bu dysgwyr yn meithrin eu sgiliau rheoli arian nhw’u hunain trwy Her Arian am Oes Lloyds TSB. Nod yr Her yw dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Un o’r grwpiau oedd yn dangos eu cynllun i Aelodau’r Cynulliad a gwahoddedigion yn y Senedd oedd tîm buddugol rownd Cymru o Her Arian Am Oes Lloyds TSB, tîm Don’t Buy Posh – Save Your Dosh o ACT Training, Pen-y-bont ar Ogwr. Nhw fydd yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai.

Y sbardun ar gyfer tîm Don’t Buy Posh – Save Your Dosh oedd y cynnydd yng nghost bwyd, sy’n golygu nad oes llawer o arian gan bobl ar ôl ar ddiwedd yr wythnos i’w wario ar bethau hanfodol eraill. Aethant ati i gynnal profion profi ac i agor caffi am ddiwrnod i ddangos nad bwyd drud yw’r gorau bob amser.

Yno hefyd, roedd tîm Money Maze o fyfyrwyr technoleg gwybodaeth o Goleg Gŵyr, Abertawe. Nhw, â’u gêm gyfrifiadurol, oedd enillwyr gwobr Dewis y Bobl. Roedd timau eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol neu a gafodd ganmoliaeth uchel yn Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dangos eu cynnyrch yn y derbyniad hefyd.

Mae ColegauCymru’n cydweithio â Llywodraeth Cymru, y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu ac eraill i sicrhau bod pawb yn cael elwa ar yr adnoddau ardderchog a ddatblygwyd i helpu pobl i reoli eu harian yn well o ganlyniad i raglenni Teach Me a Teach Others a Her Arian Am Oes Lloyds TSB.

Roedd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert AC, yn llawn canmoliaeth i raglen Arian am Oes Lloyds TSB a dywedodd bod ganddi ran bwysig i’w chwarae yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant.

“Yn yr hinsawdd economaidd presennol, mae cyn bwysiced ag erioed i ddysgu sgiliau trin arian,” meddai. “Mae’n galonogol iawn gweld fel y mae’r rhaglen Arian am Oes wedi helpu i feithrin sgiliau’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac wedi rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin eu sgiliau eu hunain.”

Meddai Allan Griffiths, cyfarwyddwr ardal (masnachol) y Lloyds Banking Group: “Ein cwsmeriaid a’n cymunedau sydd wrth galon popeth a wnawn. Dylen ni fel banc fod yn helpu pobl – nid dim ond ein cwsmeriaid, ond y cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddynt – i reoli eu harian yn well.

“Dyna’n union pam y mae’r Lloyds Banking Group yn falch o gael cefnogi pobl i oresgyn anawsterau ariannol trwy’r rhaglen Arian Am Oes. Wedi’r cyfan, mae dysgu sut i reoli’ch arian yn un o’r sgiliau pwysicaf y gallwch eu dysgu.”

Ymhlith y siaradwyr roedd prif weithredwr ColegauCymru, Dr John Graystone, a phrif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Arwyn Watkins, a ddywedodd ei fod yn gobeithio y byddai Her Arian am Oes Lloyds TSB yn cael ei hystyried wrth gynllunio’r cwricwlwm o hyn ymlaen.

More News Articles

  —