Tomos yn dewis y Gymraeg wrth weithio tuag at gymhwyster treftadaeth newydd arloesol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Tomos James, Arloeswr Hyfforddeiaeth Treftadaeth Ddiwylliannol ddwyieithog.

Mae Tomos James bron â chwblhau Hyfforddeiaeth arloesol mewn Treftadaeth Ddiwylliannol, yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r dyn ifanc 22 oed o Aberystwyth yn un o’r garfan gyntaf o hyfforddeion Uchelgais Diwylliannol i weithio tuag at y cymhwyster newydd a ddarperir gan Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Datblygwyd y rhaglen Uchelgais Diwylliannol gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ar y cyd â CAVC ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a rhaglen Sgiliau’r Dyfodol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Nod y rhaglen yw cynnig lleoliadau hyfforddi 12 mis i 33 o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, mewn safleoedd treftadaeth ledled Cymru.

Daw’r hyfforddeion o gefndiroedd amrywiol ac maent yn gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol fel rhan o’r hyfforddeiaeth hon. Rhoddir e-bortffolio o’u gwaith iddynt i ddangos i ddarpar gyflogwyr. Mae’r rhaglen yn cynnwys gwahanol sgiliau sy’n arwain at gymhwyster gan ei gwneud yn haws iddynt gael gwaith.

Treuliodd Tomos ei flwyddyn yn gweithio yn Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, oll yn Aberystwyth. Gan mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf, aeth CAVC ati i ddarparu cymaint ag y bo modd o’r cymhwyster yn y Gymraeg.

Roedd y drefn o gynnal yr asesiadau yn Saesneg a gwneud y gwaith ysgrifenedig yn y Gymraeg at ddant Tomos, a fu’n astudio Technoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Ceredigion cyn hynny. “Rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn defnyddio fy iaith gyntaf ac rwy’n falch fy mod wedi gallu gwneud y rhan fwyaf o’r cymhwyster yn Gymraeg,” meddai.

Ac yntau’n cwblhau’r cymhwyster ar 8 Medi, mae wedi mwynhau’r tri lleoliad gwaith sydd wedi rhoi profiadau newydd ac amrywiol iddo.

Ar ôl bod yn ymwneud â chwsmeriaid yn Amgueddfa Ceredigion, cafodd brofiad o gadwraeth, marchnata, adnoddau dynol, stadau a gwasanaethau cwsmeriaid yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar y Prosiect Treftadaeth Nas Cerir gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Rhaglen ieuenctid a arweinir gan CADW yw’r Prosiect Treftadaeth Nas Cerir. Mae’n defnyddio archaeoleg a gweithgareddau creadigol i alluogi pobl ifanc ledled Cymru i ddiogelu safleoedd treftadaeth lleol.

“Bu’n ddiddorol cael profiadau newydd ac rwy wedi mwynhau gweithio yn y gwahanol lefydd,” meddai Tomos gan ddatgelu mai gwaith yn y tîm marchnata yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fyddai ei swydd ddelfrydol.

Esboniodd Helen Kingman, darlithydd ac asesydd yn CAVC: “Mae gennym ni yn CAVC bolisi o wneud ein gorau glas i sicrhau bod dysgwyr yn cael gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna yw eu dymuniad.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod a dathlu’r ffaith bod gan ddysgwyr y sgìl ychwanegol o fod yn ddwyieithog. Mae’r mentoriaid a fu’n gweithio gyda Tomos yn siarad Cymraeg ac mae wedi gwneud yn dda iawn. Mae ganddo ddiddordeb, mae’n frwd ac mae’n bleser gweithio gydag ef.”

Anna Evans, cydlynydd y Prosiect Treftadaeth Nas Cerir yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, oedd yn mentora Tomos ar ei leoliad olaf lle bu’n helpu i drefnu arddangosfa a gynhaliwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd ac yn cynnal asesiadau risg yn Gymraeg.

“Mae Cymraeg ysgrifenedig Tomos yn dda iawn,” meddai. “Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig i ddysgwyr gael y cyfle i wneud eu cymwysterau’n ddwyieithog, neu hyd yn oed yn amlieithog, fel y gallant weithio yn eu holl ieithoedd os ânt dramor.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae NTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Dyma stori sy’n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae’n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella’r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i’r iaith.”

More News Articles

  —