Mae siarad yn lles! Staff cymorth Mencap yn gloywi eu Cymraeg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Charlotte Morgan (canol) gyda rheolwr gweithrediadau Mencap yn yr ardal, Jaine Evans (dde) ac uwch gynghorydd hyfforddi Progression Training, Sara Davies.

Mae Mencap yn awyddus i sicrhau bod pobl sy’n siarad Cymraeg yn cael defnyddio’u dewis iaith gyda staff wrth ddefnyddio gwasanaethau’r elusen yn Aberteifi.

Mae’r Rheolwr, Charlotte Morgan, wedi trefnu bod un o ddefnyddwyr y gwasanaethau’n arwain gweithdai Cymraeg ar gyfer staff Mencap yn y dref. Mae staff di-Gymraeg yn cael dysgu set o eiriau ac ymadroddion sylfaenol i’w defnyddiio gyda defnyddwyr y gwasanaethau sy’n dewis siarad Cymraeg.

Mae’r gwersi’n rhan o ymateb yr elusen i’r ‘Cynnig Rhagweithiol’, sef ymgyrch Llywodraeth Cymru i sicrhau bod darparwyr gofal yn mynd ati i gynnig a darparu gwasanaethau gofal i’r un safon yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Fel rhan o’i swydd fel rheolwr gyda Mencap, paratôdd Charlotte becyn gwybodaeth i helpu gweithwyr cymorth i ymwneud â defnyddwyr gwasanaethau sy’n siarad Cymraeg.

“Does gan nifer o’r staff ddim Cymraeg o gwbl ac felly, o gofio’r Cynnig Rhagweithiol, penderfynwyd y byddai’n syniad da rhoi gwers Gymraeg iddyn nhw,” meddai.

“Yn ôl y Cynnig Rhagweithiol, dylai pob aelod o’r staff gofal cymdeithasol fod yn gallu cyfathrebu â phobl sy’n dymuno siarad Cymraeg. Y Gymraeg yw iaith gyntaf rhai o ddefnyddwyr ein gwasanaethau, fel Carwyn, ac mae’n well ganddyn nhw ddefnyddio’r iaith gyda ni.

“Cytunodd Carwyn i ddysgu geiriau ac ymadroddion sylfaenol i’r staff – pethau y mae’r bobl rŷn ni’n eu cefnogi yn tueddu i’w gofyn ac atebion y gall y staff eu rhoi. Fe aeth hynny’n dda ac roedd y staff wrth eu bodd. Mae bwriad i gael rhagor o wersi yn awr.”

Mae Charlotte, 24 oed, sy’n siarad Cymraeg ac yn byw ym Mhenparcau, Aberystwyth, yn rhedeg pedwar gwasanaeth yn Aberteifi i Mencap, gan gefnogi pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae’n arwain tîm o 20 o staff, rhai ohonynt yn gwneud Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a rhai’n gwneud Prentisiaeth Lefel 3. Mae hithau wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch, QCF Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Oedolion), a ddarparwyd gan Progression Training yn y Drenewydd.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd Charlotte yn argymell prentisiaethau fel ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd yn y gweithle ac esboniodd bod y QCF Lefel 5 yn orfodol ar gyfer rheolwyr gwasanaethau gofal Mencap.

Dywedodd y byddai’n annog ac yn hybu aelodau o’r staff cefnogi a ddymunai wneud eu prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig i bobl gael y cyfle i wneud eu cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg – wedi’r cyfan dyna yw ein hiaith genedlaethol,” meddai. “Wrth aeddfedu, rydych yn sylweddoli bod y gallu i siarad Cymraeg yn help wrth chwilio am waith.”

Dywedodd Jaine Evans, rheolwr gweithrediadau Mencap yn yr ardal: “Rwy’n credu bod Charlotte wedi gwneud yn dda i feddwl am gynnig gwersi Cymraeg i staff a gwneud y trefniadau. Mae’n hollbwysig rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n siarad Cymraeg gyfathrebu yn eu dewis iaith.”

Dywedodd Sara Davies, uwch gynghorydd hyfforddi gyda Progression Training: “Bu’n bleser cydweithio â Charlotte a’i gwylio’n datblygu’n rheolwr gwych. Dim ond 24 yw hi ac mae ganddi yrfa gyffrous o’i blaen.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae NTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Dyma stori sy’n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae’n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella’r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i’r iaith.”

More News Articles

  —