Cyfle i gwrdd â’r Hyfforddeion sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.

Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae’n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Heddiw, cyflwynwn chwech o hyfforddeion llwyddiannus sy’n cystadlu am wobrau mewn dau gategori.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu)

Symudodd Jessica Apps o ben draw’r byd i gychwyn bywyd newydd ym Mlaenafon gyda’i mam a’i chwaer iau ym mis Tachwedd 2019 ac erbyn hyn fe’i disgrifiwyd fel “esiampl ddisglair” wrth iddi anelu at yrfa fel athrawes.

Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar Hyfforddeiaeth gyda Sgiliau Cyf yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Yn awr mae’n astudio ar gyfer ei Lefelau A yng Ngholeg Gwent gyda’r nod o fynd yn athrawes.

Meddai Jessica: “Ymuno â Sgiliau i wneud yr Hyfforddeiaeth oedd y penderfyniad gorau a wnes i. Ar ôl dim ond pum mis, roeddwn i’n teimlo mor hapus a bodlon yn fy mywyd newydd ac ro’n i’n cymryd y camau nesaf tuag at swydd fy mreuddwydion.”

Mae Ross Vincent yn paratoi am yrfa ym myd adeiladu, ar ôl cymryd diddordeb mewn gosod brics tra oedd yn gwneud Hyfforddeiaeth.

Ar ôl yr Hyfforddeiaeth, mae Ross, 18, sy’n byw yn Noc Penfro, wedi mynd ymlaen i sicrhau prentisiaeth gydag Evan Pritchard Contractors yn Hwlffordd, lle mae ei dad, Carl, yn rheolwr safle.

Ac yntau wedi cwblhau Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 mewn Gwaith Brics, mae’n gweithio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Gosod Brics a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Daear, y cyfan yng Ngholeg Sir Benfro.

Ar ôl wynebu heriau ar gwrs arall yn y coleg, dywedodd Ross ei fod yn benderfynol o lwyddo a dilyn gyrfa yn y maes.

Lewis O’Neill, o Garden City, Glannau Dyfrdwy, sydd yn rownd derfynol am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu).

Mae Lewis O’Neill, 17, o Garden City, Glannau Dyfrdwy wedi troi cornel yn ei fywyd ac mae’n edrych ymlaen at yrfa ym maes clustogwaith dodrefn diolch i Raglen Hyfforddeiaethau gan Lywodraeth Cymru.

Mae Lewis wedi cwblhau Rhaglenni Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 a Dyfarniad Estynedig City & Guilds Lefel 1 mewn Cyflogadwyedd. Roedd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau a bu trwy’r system gyfiawnder cyn dechrau gweithio gyda Coleg Cambria.

“Erbyn hyn, mae gen i swydd dda a rhagolygon da ac rwy’n gobeithio y gall fy stori i ysbrydoli rhywun arall,” meddai Lewis sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Clustogwaith Dodrefn.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1)

Ychydig o Saesneg oedd gan Thibaud Gailliard pan ddaeth i Gymru o Ffrainc yn fachgen ifanc swil 16 oed ar ôl i’w fam farw o ganser. Doedd ganddo ddim cymwysterau ffurfiol na phrofiad o weithio. Ers hynny, disgrifiwyd ei daith ddysgu fel un “anhygoel”.

Bu Thibaud, 21 oed, o Lynebwy, yn lwcus i ganfod Rhaglen Ymgysylltu yn y Cyfryngau Creadigol ar ffurf Hyfforddeiaeth gan y darparwr hyfforddiant Sgiliau Cyf o Risga. Yn fuan iawn, aeth ati i ddysgu Saesneg, gwella’i sgiliau mewn TG, dylunio a cherddoriaeth ac ennill nifer fawr o gymwysterau.

Ar ôl yr Hyfforddeiaeth, aeth Thibaud ymlaen i wneud Dyfarniad Lefel 1 i Ddefnyddwyr TGCh gyda chwmni Sgiliau. Erbyn hyn, mae’n gweithio iddynt fel gweinyddwr arweiniol ac yn gwneud Prentisiaeth Sylfaen mewn TG.

Jamie Hopkins, o Gas-gwent, sydd yn rownd derfynol am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1).

Cafodd Jamie Hopkins ei fwlio’n ddrwg yn yr ysgol a gadawodd heb gymwysterau. Cymerodd bedair blynedd iddo ailddarganfod ei gariad at ddysgu, a hynny diolch i Hyfforddeiaeth gydag Itec.

Dywed Jamie, 20, o Beachley, ger Cas-gwent, mai’r gefnogaeth un-i-un a gafodd gan oruchwyliwr y gweithdy, John Smith yng Nghanolfan Itec, Casnewydd a newidiodd ei fywyd. Yno, cwblhaodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.

Mae Jamie, sy’n gobeithio cael prentisiaeth gyda busnes lleol a gyrfa’n gwneud gwaith saer cywrain, yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 1 Gwaith Coed yng Ngholeg Gwent, Casnewydd.

Dywedodd John fod Jamie’n “ddysgwr ardderchog gyda dyfodol disglair o’i flaen.”

Er ei bod yn eithriadol o swil pan adawodd yr ysgol, erbyn hyn, ar ôl cychwyn taith ddysgu ar Raglen Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru, mae Chloe Harvey yn weithwraig hyderus.

Ar ôl penderfynu nad oedd am fynd i’r chweched dosbarth yn yr ysgol, daeth Chloe, 19, o Gil-maen, ger Penfro, i gysylltiad â’r darparwr dysgu PRP Training Ltd.

Bu cwblhau Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gweinyddu Busnes yn ysbrydoliaeth i Chloe a chafodd leoliad gwaith gyda Genpower Ltd, Doc Penfro. Llwyddodd i greu’r fath argraff nes bod y cwmni wedi creu prentisiaeth newydd fel y gallent ei chyflogi.

Ers hynny, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes ac wedi datblygu sgiliau ym maes trefnu, gwasanaethu cwsmeriaid a TG sydd wedi’i galluogi i addasu’n hwylus i weithio gartref yn ystod pandemig Covid-19. Erbyn hyn, mae Chloe yn helpu i hyfforddi aelodau newydd tîm Genpower.

More News Articles

  —