Prentisiaethau’n hybu perfformiad ac ansawdd gwaith cwmni gofal

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cyfarwyddwr datblygu busnes Wales England Care Training, Siobhan Carey, y rheolwr cofrestredig, Diane Morgan a’r gyfarwyddwr gweithrediadau, Moyra Kearney – prentisiaethau’n hanfodol i’w cynlluniau i dyfu.

Dywed cwmni gofal cartref Wales England Care Ltd fod prentisiaethau’n hanfodol i’w gynlluniau i dyfu a’u bod eisoes wedi hybu ei berfformiad ac ansawdd ei waith, gan sicrhau bod staff yn aros yn hirach.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, dywed y cwmni o Gasnewydd fod ei Raglen Brentisiaethau wedi cyfrannu at gynnydd o 57% mewn gwerthiant a sgôr cymderadwyaeth o 98% gan gleientiaid. Gwnaed hyn trwy wella sgiliau, hyder ac effeithlonrwydd a lleihau costau, gan arwain at gynnydd o 177% mewn incwm net.

Ym mis Ionawr y llynedd, roedd lefel trosiant y staff yn 68% ond, erbyn mis Medi, ar ôl cyflwyno prentisiaethau, roedd wedi syrthio i 16% ac mae’r oriau gofal a ddarperir bob wythnos wedi cynyddu o 200 i 1,000 ers 2017.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Ar hyn o bryd, mae gan Wales England Care, sy’n ymroi i gynnig gofal o’r safon uchaf, 13 o brentisiaid yn gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefelau 2 i 5.

Darperir yr hyfforddiant gan ei chwaer gwmni, Wales England Care Training, ochr yn ochr â chyrsiau hyfforddi mewnol, ac mae pob prentis yn cael mentor profiadol.

Mae gan Wales England Care 42 o weithwyr ac mae wedi ennill achrediad arian Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr, Kim Churcher, a fu’n brentis ei hunan, yn benderfynol o ddangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw gweithwyr gofal.

Mae’n hoffi sôn wrth fusnesau eraill yn y sector am fanteision prentisiaethau a rhannu arferion da.

Trwy gydweithio’n agos â Wales England Care Training, mae’r cwmni wedi cyflwyno prentisiaethau trwy’r sefydliad cyfan, o’r gwaelod i’r top, ac mae wedi sefydlu rhaglen Arweinwyr y Dyfodol i helpu pobl i symud ymlaen yn eu gyrfa.

“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n rhan hanfodol o’r cwmni erbyn hyn a bydd yn rhan amlwg o’n gwaith cynllunio strategol,” meddai Christopher Churcher, cyfarwyddwr cyllid Wales England Care. “Ein bwriad yw datblygu’r rhaglen ymhellach.”

Dywedodd Helen Harris, rheolwr ansawdd Wales England Care Training: “Mae gan Wales England Care gynlluniau uchelgeisiol i dyfu yn rhanbarthol a thrwy’r Deyrnas Unedig. Mae’n awyddus i ddefnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau i sicrhau bod pawb yn ennill y cymwysterau gofynnol a bod gweithwyr y cwmni ei hunan yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —