NTFW yn tanlinellu pwysigrwydd rhaglenni Prentisiaethau a ReAct+
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau £17.5m ar gyllid prentisiaethau a arweinir gan y galw, £5.3m ar gyllid y rhaglen React+ ac £8.5m ar y gyllideb ar gyfer darpariaeth ôl-16, o ganlyniad i “ragolygon diwygiedig”.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gorfod diwygio Cyllideb 2023-2024 er mwyn diogelu gwasanaethau craidd i’r cyhoedd ar ôl gwario mwy nag y bwriadwyd oherwydd lefelau hir o chwyddiant, codiadau yn nhâl y sector cyhoeddus a’r argyfwng costau byw.
“Mae’n anochel y bydd gan rai arbedion effeithiau negyddol tebygol,” yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y gyllideb. “Ym mhob achos, rydym wedi gweithio’n galed i gynnal cyllid ac i gymryd camau lliniaru lle bo modd, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i leihau effeithiau.
“Canfuwyd y rhan fwyaf o’r arbedion o bortffolio’r Economi o ganlyniad i ragolygon diwygiedig neu o dderbyniadau incwm untro, yn ymwneud â (thechnolegau) digidol, incwm yr UE neu werthiannau eiddo,” meddai Llywodraeth Cymru. “Byddwn yn parhau i fonitro’r cyllid hwn yn agos yng ngoleuni’r cyd-destun sy’n newid o safbwynt yr economi a’r farchnad lafur.”
Daw’r toriadau yn y gyllideb ar ôl cyhoeddi adolygiad hirddisgwyliedig o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru yn ddiweddar a arweiniodd at ymrwymiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i wneud yn siŵr bod cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru.”
“Bydd gwella darpariaeth cymwysterau galwedigaethol sydd wedi’u gwneud i Gymru, a’r ystod sydd ar gael, yn hollbwysig er mwyn gofalu ein bod ni’n diwallu anghenion economi Cymru i’r dyfodol, gan gynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr ar yr un pryd i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw,” meddai.
Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton:
“Er ein bod yn cydnabod yr heriau ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, rhaid cofio bod prentisiaethau’n ein helpu i ddatblygu gweithlu deinamig a hyblyg, i lenwi bylchau mewn sgiliau ac i gefnogi byd busnes a thwf economaidd yng Nghymru.
“Roedden ni yn NTFW wrth ein bodd yn ddiweddar pan wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gydnabod bod addysg alwedigaethol yn ganolog i ddewis gyrfa, datblygiad cyflogwyr a thwf economaidd, a’i bod yr un mor werthfawr gan bawb.
“Mae Prentisiaethau a’r rhaglen ReAct+ yn rhan hanfodol o’r economi, ac maent o gymorth hefyd i rai o bobl ifanc mwyaf difreintiedig ein cymdeithas. Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gydnabod hynny.”
Llywodraeth Cymru: Diweddariad ar sefyllfa ariannol 2023-2024
More News Articles
« ACT yn ennill gwobr Lles yn y Gweithle — Dilyn eich nodau gydag Itec: Stori Joseph James »


