Ffermwr llaeth arobryn yn gweld gwerth prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yn ôl ffermwr llaeth arobryn o Fôn, prentisiaethau yw’r ffordd orau i bobl ifanc ennill cyflog wrth ddysgu eu crefft.

dairy farmer in field with apprentice

Y ffermwr, Will Williams, gyda’r prentis, Ffion Griffiths, a’r fuches odro yn y cefndir.

Mae William Williams yn ffermio tua 450 o erwau gyda’i ddau fab, Rhys a Tom, yng Nghlwch Dernog Bach, Llanddeusant, lle mae ganddynt fuches o 250 o wartheg godro Holstein sydd â’r rhagddodiaid Clwch, Blaengar neu Arbennig o flaen eu henwau.

Sefydlodd William fuches Clwch yn 1992 gyda dim ond 20 o wartheg ac, yn 2019, enillodd wobr Master Breeder gan Holstein UK. Cafodd y fuches ei dewis yn fuches orau gogledd Cymru bedair blynedd o’r bron ac mae William wedi ennill gwobrau yn Sioe Môn a Sioe Dinbych a Fflint hefyd. Ymunodd â bwrdd Holstein UK yn 2020.

Mae Ffion Griffiths wedi’i chyflogi i helpu i fagu’r lloi ac i odro ar benwythnosau ar y fferm. Mae hi’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Amaethyddiaeth, Dysgu yn y Gwaith (Cynhyrchu Da Byw) wedi’i chyflenwi’n ddwyieithog gan Grŵp Llandrillo Menai.

“Dwi’n credu bod prentisiaethau’n wych,” meddai William. “Cysylltodd Ffion â ni ym mis Ebrill y llynedd i holi a gâi hi ddod i ddysgu godro. Roedd yn dod bob yn ail benwythnos ar y dechrau a, phan ddechreuodd y lloi gyrraedd ym mis Gorffennaf, mi benderfynon ni y gallen ni wneud â phâr arall o ddwylo ac mi gychwynnodd prentisiaeth Ffion ym mis Medi.

“Mae gennym ni rywun sy’n ifanc, yn frwd ac yn awyddus i ddysgu. Mae hi’n cael ei thalu a ninnau’n cael tipyn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i’w chyflogi. Dydi Ffion ddim yn dod o gefndir ffermio ac mae’n dda ei bod hi’n dysgu ein ffordd ni o weithio.

“Erbyn iddi orffen ei phrentisiaeth, bydd hi’n gallu gweithio ar unrhyw fferm laeth os bydd yn penderfynu symud ymlaen. Yn fy marn i, dylai fod rhagor o brentisiaethau, gan mai dyma’r ffordd orau o ddysgu crefft.”

Mae’n hollol gefnogol i brentisiaethau dwyieithog, yn enwedig gan mai Cymraeg yw iaith ei deulu. “Anaml y byddwn ni’n siarad Saesneg, felly mae’n gwneud synnwyr bod prentisiaeth Ffion yn ddwyieithog,” meddai William.

Dywedodd Charlotte Roberts, asesydd amaethyddiaeth, dysgu yn y gwaith, yng Ngrŵp Llandrillo Menai: “Mae’r teulu Williams yn wych gyda Ffion. Maen nhw’n ei chefnogi, yn egluro popeth maen nhw’n ei wneud ac yn ei chynnwys ym mhob agwedd ar waith y fferm.

“Mae prentisiaid yn cael gwneud asesiadau ymarferol, llafar ac ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw iaith gyntaf llawer o’r prentisiaid dwi’n gweithio gyda nhw ac maen nhw’n gwybod yr holl dermau ffermio yn Gymraeg.

“Mae Grŵp Llandrillo Menai yn hyrwyddo dysgu yn Gymraeg ac yn ddwyieithog. Mae’r system bortffolios ar-lein rydan ni’n ei defnyddio yn uniaith Saesneg, felly dwi’n anfon popeth at gyfieithwyr y coleg i sicrhau bod yr holl gwestiynau’n ddwyieithog ar gyfer y dysgwyr.”

Farmer and apprentice with dairy herd

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.”

Dywedodd Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

“Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

More News Articles

  —