William yn Brentis y Flwyddyn ar ôl arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

William Davies, enillydd gwobr Prentis y Flwyddyn.

Bu llwyddiant William Davies i arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch yn help iddo ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Mae William Davies yn gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed, arbenigwyr mewn systemau gweld yn glir ar gyfer y diwydiant moduro a chyhoeddwyd yn y seremoni rithwir ar 17 Mehefin mai ef oedd enillydd y wobr.

Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberdâr, wedi gwneud cyfraniad pwysig at y busnes rhyngwladol. Yn ogystal, mae wedi rhoi argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd, mae wedi gwneud gwelliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant ac mae wedi rheoli prosiect i adnewyddu cantîn y gwaith a sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid.

Wrth ymateb i’w lwyddiant, dywedodd William: “Dyma’r eisin ar y gacen i mi ac mae’n uchafbwynt ardderchog i fy mhrentisiaeth. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau yn ffordd hanfodol o ddatblygu gweithwyr medrus er mwyn adfer yr economi yng Nghymru.

“Rhaid i mi ddiolch i fy nghyflogwr, fy nheulu a fy asesydd yn y coleg am fy nghefnogi a fy arwain trwy fy mhrentisiaeth.

“Fe benderfynais i wneud prentisiaeth gan fy mod i’n credu y byddai’n rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol angenrheidiol i mi i wireddu breuddwyd oes, sef bod yn beiriannydd gweithgynhyrchu, ac fe wnaeth.

“Rwy’n anelu at berffeithrwydd ac mae gwerthoedd craidd a llwyddiant fy nghwmni yn agos iawn at fy nghalon.”

Roedd y gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Yn ôl Steve Mills, rheolwr gwaith technegol a gwelliant parhaus Kautex Textron, mae William yn un o’r cymeriadau mwyaf eithriadol y mae wedi dod ar ei draws yn ei 25 mlynedd fel rheolwr. Dywedodd ei fod eisoes yn gweithio ar lefel peiriannydd gweithgynhyrchu â gradd.

Mae gan William restr o gymwysterau a rhagoriaethau i’w enw, wedi’u casglu wrth iddo ymdrechu i gyflawni ei uchelgais o fod yn beiriannydd siartredig/cyfarwyddwr cwmni.

Cwblhaodd Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na’r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle’r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.

Wrth longyfarch William, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —