Tîm Cymru yn fuddugol gyda 61 medal gartref wrth i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK
Roedd yr wythnos hon yn garreg filltir hanesyddol i Gymru wrth iddi gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK am y tro cyntaf erioed – a chyda’r nifer uchaf o gystadleuwyr y mae ein cenedl erioed wedi’u cynnwys.
Yn dilyn Ras Gyfnewid y Fflam ysbrydoledig Tîm Cymru, a deithiodd hyd a lled Cymru, gan uno colegau a chymunedau i ddathlu sgiliau, daeth Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK â dros 400 o brentisiaid a dysgwyr mwyaf talentog y DU ynghyd i gystadlu am deitl y gorau yn eu crefft.
O 26ain – 28ain o Dachwedd, cynhaliwyd cystadlaethau ar draws pum lleoliad yn Ne Cymru, gan gwmpasu dros 40 o feysydd sgiliau o beirianneg a digidol i letygarwch, adeiladu a’r diwydiannau creadigol.
Cyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol yn ystod seremoni medalau yn ICC Cymru ddydd Gwener, yr 28ain o Dachwedd, lle gwnaeth Tîm Cymru berfformiad rhagorol, gan sicrhau 61 o fedalau.
O’r rhain, cyflawnodd Tîm Cymru 13 Aur, 15 Arian, 18 Efydd, a 15 Wedi’u Canmol yn Fawr. Rhagorodd y tîm hefyd mewn cystadlaethau Sgiliau Sylfaen, gan sicrhau 15 medal ychwanegol – tystiolaeth o ddull cynhwysol Cymru o ddatblygu sgiliau. Enillwyr Medalau Cymru.
Yn y cyfamser ym Milton Keynes, cystadlodd naw o enillwyr rowndiau rhagbrofol o Gymru yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild – a daethant â medal arian a medal efydd adref, y ddau mewn Teilio Wal a Llawr. Wedi’i gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), SkillBuild yw’r gystadleuaeth sgiliau aml-grefft fwyaf yn y DU ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu.
Eleni, cynrychiolwyd Cymru gan gyfanswm o 122 o gystadleuwyr – y nifer uchaf erioed i’r genedl ei gael. Roedd cystadleuwyr o Gymru yn cyfrif am tua 30% o’r holl gystadleuwyr ledled y DU, gan adlewyrchu ehangder y dalent sgiliau yng Nghymru ac effaith buddsoddiad mewn hyfforddiant a chyfleusterau ledled y wlad.
Dywedodd Robert Jones, enillydd medal aur yn y categori Cynnal a Chadw Awyrennau: “Ar ôl ennill medal Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac un Arian yn y gystadleuaeth genedlaethol, roeddwn yn benderfynol o anelu am y brig y tro hwn. Mae’r profiad wedi bod yn amhrisiadwy – mae wedi fy helpu i werthuso fy sgiliau, eu gwella drwy dderbyn adborth ac rydw i wedi gallu gwthio fy hun i’r lefel nesaf. Mae cynrychioli Cymru’n fy ngwneud i deimlo mor falch, ac wrth edrych tua’r dyfodol hoffwn barhau i ddatblygu a gobeithio teithio’r byd yn arddangos fy sgiliau.”
Dywedodd Anisa Abdin, a gafodd glod uchel yn y gystadleuaeth Therapi Harddwch: “Mae cystadlu yng rownd derfynol WorldSkills UK yn rhywbeth na fyddwn erioed wedi’i ddychmygu. Flwyddyn yn ôl, ni fyddwn yn credu y byddwn i yma heddiw. Mae wedi fy ngwthio i anelu’n uwch a chynnal safonau uchel, ac i dyfu mewn hyder yn sylweddol. Bydd rhoi’r gamp hon ar fy CV yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar gyfer fy nyfodol. Fy mreuddwyd nawr yw cwblhau cymhwyster Lefel 4 ac, un diwrnod, agor fy salon fy hun – mae’r profiad yma wedi dangos i mi fod unrhywbeth yn bosibl.”
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau Jack Sargeant: “Hoffwn estyn llongyfarchiadau mawr i Dîm Cymru ar eu llwyddiant ysgubol yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni.
“Mae cynnal y Rowndiau Terfynol am y tro cyntaf wedi bod yn foment llawn balchder i’n cenedl, ac mae cyflawniadau ein cystadleuwyr yn tynnu sylw at eu hymroddiad ac ansawdd eithriadol y dalent galwedigaethol sydd gennym yma yng Nghymru.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf, gan greu cyfleoedd iddynt ehangu eu gorwelion a chyflawni cydnabyddiaeth o’r radd flaenaf. Llongyfarchiadau eto i bob cystadleuydd ac i’r tiwtoriaid, cyflogwyr a theuluoedd a’u cefnogodd drwy gydol y daith anhygoel hon.”
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yng nghystadlaethau cenedlaethol WorldSkills UK. Maen nhw wedi dangos eu sgiliau ar y lefel uchaf ac mae’r bobl ifanc eithriadol hyn yn cynrychioli dyfodol ein heconomi. Nhw yw’r genhedlaeth newydd o bobl sy’n hedfan yn uchel a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i gyflogwyr y DU. Mae ein cystadlaethau, sy’n seiliedig ar safonau byd-eang, yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu’r sgiliau a fydd yn sbarduno buddsoddiad, yn creu swyddi, ac yn tanio twf economaidd.”
Croesawodd WorldSkills UK ynghyd â Llywodraeth Cymru, ac Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru gyflogwyr blaenllaw, arbenigwyr diwydiant o bob cwr o’r byd a chynrychiolwyr o sector addysg a hyfforddiant y DU i wylio’r rowndiau terfynol cenedlaethol ar waith.
Mae cystadlaethau yng Nghymru yn dechrau ar lefel ranbarthol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru, a gydlynir gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ac yn symud ymlaen i gamau WorldSkills cenedlaethol a rhyngwladol.
Nawr mae gan enillwyr medalau yn WorldSkills UK gyfle i ymuno â Sgwad y DU a chynrychioli eu gwlad mewn cystadlaethau WorldSkills byd-eang yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am WorldSkills UK a SkillBuild, a sut i ddechrau eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i inspiringskills.gov.wales.
More News Articles
« Galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu prentisiaethau a’u paratoi at y dyfodol —


