Annog prentisiaid Cymru i arddangos eu sgiliau trwy roi cynnig ar WorldSkills UK

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Kavan Cox holding text books

Kavan Cox

Mae prentisiaid ledled Cymru’n cael eu hannog i ymgiprys â’r goreuon yn eu maes trwy gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK 2023.

Daw’r alwad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ac Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW), sy’n galw ar ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr i gefnogi prentisiaid i arddangos eu doniau.

Gall prentisiaid sy’n dymuno cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK eleni gofrestru ar-lein yn worldskillsuk.org rhwng Chwefror 27 a Mawrth 24.

Mae’r cystadlaethau’n ymestyn ac yn herio dysgwyr, gan roi profiadau gwahanol iddynt yn eu maes wrth iddynt ymarfer eu crefft gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant.
Mae cyflogwyr o’r farn bod y profiad yn ysbrydoli eu busnes a’u gweithlu, ac mae prentisiaid yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol am eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith: “Ar ôl gweld dysgwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau yn ddiweddar,

“rwy’n annog pob darparwr dysgu seiliedig ar waith a’u prentisiaid i edrych i mewn i WorldSkills UK eleni a chael gwybod sut i gystadlu.

“Mae ‘na gyfleoedd gwych i brentisiaid ac mae llawer o’r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon sgiliau ac i ddatblygu eu gyrfa. Mae eu cyflogwyr yn elwa o gael gweithwyr brwd sydd â sgiliau rhagorol ac sy’n awyddus i ddatblygu eu hunain.”

Paul Evans yw cyfarwyddwr prosiect ISEiW, prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr o Gymru i feincnodi eu sgiliau yn erbyn gweddill y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt trwy gystadlaethau.

Mae ISEiW, sy’n trefnu Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac yn cefnogi dysgwyr o Gymru yn WorldSkills UK, wedi helpu i sicrhau mai Cymru sydd wedi bod ar y brig o ran sgiliau yn y DU bob blwyddyn ers saith mlynedd.

O Gymru y daw 38 o’r 94 o ddysgwyr a ddewiswyd ar gyfer Sgwad y DU i gystadlu am le yn Nhîm y DU yn WorldSkills Lyon yn 2024.

“Sgiliau yw sylfaen economi gref,” meddai Paul. “Os cewch chi’r sylfaen yn iawn, bydd yr economi’n ffynnu.

“Rwy’n annog pob darparwr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwr ledled Cymru i gefnogi eu prentisiaid i gystadlu yn WorldSkills UK oherwydd pan maen nhw’n gwneud hynny, maen nhw’n cael canlyniadau rhyfeddol.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’r bobl ifanc, y tiwtoriaid, yr ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a’r cyflogwyr gorau ledled Cymru ond mae lle i ragor bob amser.

“Yn ogystal ag ymestyn a herio’r dysgwr, mae’r cystadlaethau hyn yn agor llygaid darparwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr i safonau cenedlaethol a rhyngwladol.

“Mae’r cystadlaethau wir yn newid bywydau pobl. Maen nhw’n canolbwyntio ar berfformiad dysgwyr o dan bwysau, o ran amser ac ansawdd – rhywbeth sy’n bwysig i gyflogwyr. Felly, rydyn ni’n gweld mwy o gefnogaeth yn dod yn uniongyrchol gan gyflogwyr.”

Gwelwyd sawl dysgwr o Gymru’n rhagori yn WorldSkills UK a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru y llynedd. Yn eu plith roedd Kavan Cox, 19, a enillodd wobr arian yn WorldSkills UK yn y categori Sgiliau Sylfaen: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes tra oedd yn dilyn rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gydag ACT Training.

Enillodd Kavan, sy’n byw yn Hirwaun, fedal aur hefyd am Wasanaethau i Gwsmeriaid, Lefel 1 yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac enillodd Kian Davies, un arall o ddysgwyr ACT Training, fedal efydd yn yr un gystadleuaeth.

“Roedd dim ond cymryd rhan yn y cystadlaethau’n gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus ac roedd yn gyfle i ddefnyddio’r sgiliau ro’n i wedi’u dysgu,”

meddai Kavan, a hoffai droi lleoliad profiad gwaith gyda’r Ganolfan Waith yn Aberdâr yn brentisiaeth. “Roedd yn wych ennill y medalau a byddwn i’n cynghori prentisiaid eraill i ddefnyddio’u sgiliau a chymryd rhan yn y cystadlaethau.”

Cafwyd llwyddiannau yn y categori Cyfrifeg yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru hefyd lle’r enillodd y prentisiaid Sara Mariica McQueen o ACT Training a Ricky O’Callaghan a Stephanie Watkins, y ddau o ALS Training, fedalau aur ac yr enillodd Eric Brown fedal efydd yn y categori Technegydd Cymorth.

Dywedodd Michael Evans, cyfrifydd ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Casnewydd, lle mae Stephanie wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar: “Prif fantais bod yn brentis yw’r cyfle i gael profiad ymarferol gan ehangu’ch sgiliau ar yr un pryd.

“Trwy gymryd rhan yn y cystadlaethau hyn, gall unigolion gymharu eu sgiliau a’u galluoedd â rhai sydd mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae hynny o fudd, nid yn unig i’r cystadleuwyr, ond hefyd i’r sefydliad trwy fod yn ddangosydd perfformiad ar gyfer ein gwaith ym maes dysgu a datblygu ac ar gyfer cyfleoedd i symud ymlaen mewn gyrfa.

“Mae ennill medal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi rhoi hwb mawr i hyder Stephanie ac wedi agor y drws ar gyfleoedd ar gyfer twf proffesiynol. Cafodd ddyrchafiad mewnol yn ddiweddar ac mae’n dal i symud ymlaen yn ei gyrfa ym myd cyllid.

“Byddwn i’n argymell prentisiaethau fel ffordd wych o uwchsgilio a diwallu anghenion busnesau.”

Dywedodd 97% o ymgeiswyr blaenorol WorldSkills UK eu bod wedi gwella’u sgiliau technegol ar ôl cymryd rhan a dywedodd 93% eu bod wedi gwella’u sgiliau personol a’u sgiliau cyflogadwyedd. Mae enillion cyfartalog rhai sydd wedi cymryd ran mewn rhaglenni datblygu cystadlaethau 60 y cant yn uwch nag enillion grŵp tebyg sydd heb wneud.

worldskillsuk.org

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —