Yr Economi Sylfaenol yn hybu newid yn ystod cyfnod y feirws

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (y Bartneriaeth) yw Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol De-ddwyrain Cymru ac mae’n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r Bartneriaeth baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer sgiliau yn y dyfodol, a chynrychioli buddiannau ei rhanbarth wrth baratoi system sgiliau a seilir ar alw.

Mae’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau’n ysgogi gwaith y Bartneriaeth ac, yma, daw cynrychiolwyr byd busnes a darparwyr addysg a hyfforddiant ynghyd i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r sectorau a gynrychiolir ganddynt er mwyn sicrhau bod y rhanbarth mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau ym maes sgiliau.

Mae’r Bartneriaeth, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, wedi paratoi Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2019-22 i fod yn weledigaeth dair blynedd ar gyfer y rhanbarth. Defnyddir y cynllun i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddylanwadu ar ei gwaith yn cynllunio ac yn ariannu addysg ôl-16 gan helpu i sicrhau system sgiliau sy’n seiliedig ar y galw ac i gynyddu cynhyrchiant a ffyniant ledled y rhanbarth.

Yn ogystal, mae’r Bartneriaeth wedi cefnogi datblygiad nifer o wahanol grwpiau sector â blaenoriaeth ledled y rhanbarth sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llunio’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau. Mae’r grwpiau clwstwr hyn yn arweinwyr strategol yn y gwaith o gyflenwi argymhellion a chamau allweddol ar lefel y sector.

Mae grŵp clwstwr yr Economi Sylfaenol yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant a’r gwasanaethau brys, pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig iawn mewn ymateb i bandemig COVID-19. Dywedodd Grant Santos, prif weithredwr grŵp Educ8 a chadeirydd grŵp clwstwr Economi Sylfaenol y Bartneriaeth bod “aelodau o’r grŵp yn cyflogi staff sydd wedi bod yn gweithio yn y rheng flaen yn ystod cyfnod y feirws; staff sy’n peryglu eu bywydau eu hunain i warchod iechyd y genedl ac i helpu i leihau’r effaith ar economi Cymru”.

Mae’r grŵp clwstwr yn ymwybodol hefyd o bwysigrwydd cyflogi a chadw gweithlu medrus yn ystod y cyfnod anodd hwn ac maent yn defnyddio technoleg i gynnal rhithgyfarfodydd ac i symud ymlaen ag argymhellion a gwaith pwysig. Er enghraifft, bu Gofal Cymdeithasol Cymru’n gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol a’n cefnogi ymgyrch genedlaethol ‘Gofalwn Cymru’ sydd â’r nod o gyflogi miloedd yn rhagor o bobl i weithio’n gofalu am oedolion a phlant. Awgryma Grant Santos y “bydd yr ymgyrch yn hollbwysig er mwyn i’r sector gadw i fyny â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau gofal a chynnig cymorth i gymunedau ledled y wlad”.

Ym maes Prentisiaethau, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dal i gefnogi mynediad at Brentisiaethau pob-oed ar draws y sector iechyd. Maent wrthi’n gweithio ar fframweithiau newydd ar lefel 4/5 ac mae’n bosib y dechreuir ymgynghori arnynt mor fuan â mis Medi. Yn yr un modd, bu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio ar Brentisiaeth newydd i ddiffoddwyr tân gyda’r bwriad o recriwtio tua 12 o ddysgwyr ym mis Medi. Maent hefyd yn ysgogi datblygiad Fframwaith Lefel 4 mewn Archwilio a Pheirianneg yn arbennig ar gyfer y gwasanaethau tân yng Nghymru.

Yn olaf, bu Cyngor y Gweithlu Addysg wrthi’n hyrwyddo dysgu fel gyrfa ddeniadol a hyfyw a bydd yn datblygu platfform digidol newydd er mwyn ceisio sicrhau cynnydd sylweddolyn nifer ac ansawdd yr athrawon sy’n ymgeisio am swyddi yng Nghymru.
Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’r datblygiadau hyn, cysylltwch â: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk.

More News Articles

  —