Zoe Evans, prentis CITB, yn llwyddo wrth baentio

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dechreuodd Zoe Evans o Lanelli brentisiaeth gyda’r CITB ym mis Medi 2017, gan ddilyn rhaglen Lefel 2, paentio ac addurno, cyn symud ymlaen i gwblhau rhaglen Lefel 3 yn haf 2019.

Roedd agwedd a phroffesiynoldeb Zoe yn ystod y rhaglen yn wych. Roedd yn arweinydd dosbarth yng Ngholeg Sir Gâr lle’r oedd yn astudio, gan fynd ati o’i phen a’i phastwn ei hunan i dorri tir newydd a hyrwyddo technolegau fel Google Documents.

Aeth Zoe ymlaen i gynrychioli’r coleg ar lefel genedlaethol yng nghystadleuaeth SkillBuild lle gwnaeth yn ardderchog. Bu’n gweithredu fel llysgennad dros y coleg hefyd ac, ar ôl cwblhau cwrs arbennig WorldSkills mewn siarad cyhoeddus, roedd yn ddigon hyderus i fynd i ysgolion i sôn am yrfaoedd i ferched yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig y cyfleodd sydd ar gael i fyfyrwyr Duon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Trwy wneud hyn roedd yn annog y genhedlaeth nesaf o ferched i ddysgu crefftau i’w galluogi i weithio yn y diwydiant adeiladu.

Roedd Zoe yn uchel ei pharch wrth ei gwaith, yn grefftwraig oedd yn gweithio i safon uchel iawn. Dewiswyd hi i deithio ledled Prydain i wneud gwaith pwysig ac roedd ei chyflogwr, Ian Williams Ltd, yn ffyddiog y byddai’r gwaith yn cael ei wneud i’r safon uchaf. Tua diwedd ei phrentisiaeth, comisiynwyd Zoe i ddylunio a phaentio murlun yn swyddfa ei chyflogwr.

Mae Zoe, â’i dawn artistig, yn mwynhau agweddau creadigol ei gwaith a’i bwriad yw dilyn gyrfa ym maes dylunio mewnol. Trwy ei hymroddiad i gyrraedd y safon uchaf, daeth Zoe’n llysgennad dros ferched ym myd adeiladu a hi yw’r wyneb ar bosteri ar draws Coleg Sir Gâr.

Dywedodd Zoe: “Rwy wedi mwynhau pob rhan o fy nhaith fel prentis, o’r sesiynau dysgu yn yr ystafell ddosbarth i’r gwaith ymarferol a’r agweddau mwy creadigol ar y swydd. Hoffwn ddiolch i fy mentor, Ken MacKay, a fy nghyflogwr, Ian Williams Ltd. Mae’n deimlad braf iawn cael fy nghydnabod fel hyn. Byddwn yn siŵr o argymell prentisiaeth wrth unrhyw un sy’n fodlon gweithio’n galed, anelu’n uchel ac ymdrechu i gyrraedd ei nod.”

Nid oedd bywyd yn hawdd i Zoe tra oedd yn gwneud ei phrentisiaeth; cafodd flynyddoedd anodd yn ceisio cydbwyso’i gwaith ysgol â gofalu am ei chwaer anabl. Bu’r holl ofal yn dreth ar iechyd meddwl Zoe ac, ar ôl dioddef o iselder am flynyddoedd, mae’n dweud bod rhai dyddiau’n dal yn anodd iawn ond, gyda chymorth proffesiynol, mae mewn lle gwell o lawer erbyn hyn ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol yn obeithiol.

Mae agwedd ymarferol Zoe yn heintus. Mae’r ffaith ei bod mor benderfynol ac mor awyddus i lwyddo, ynghyd â’r sgiliau ardderchog sydd ganddi, yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Dywedodd Jon Davies, Swyddog Prentisiaethau CITB: “Pan ddechreuodd Zoe ei phrentisiaeth, fe welson ni ei photensial ac felly symudwyd hi i fyny’n sydyn o Lefel 1 i Lefel 2. Roedd yn bwysig i mi ein bod yn sicrhau’r gefnogaeth angenrheidiol iddi gyrraedd yr uchelfannau sydd o fewn ei chyrraedd, ac mae hynny’n digwydd. Mae Zoe’n gwneud y gweithle’n lle brafiach i bawb o’i chwmpas. Gyda’i hagwedd gadarnhaol a’i gallu, mae’n llysgennad perffaith ar gyfer menywod ym myd adeiladu.”

Uchafbwynt ei llwyddiannau ar raglen y CITB oedd ennill gwobr Prentis y Flwyddyn y CITB. Dyma gamp enfawr a fydd, gobeithio, yn hwb i’w gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

all cyflogwyr sy’n awyddus i recriwtio prentisiaid neu i gynyddu sgiliau eu gweithwyr presennol gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau neu raglenni eraill ym maes sgiliau a hyfforddiant trwy fynd i Borth Sgiliau Busnes Cymru businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338.

Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth.

www.citb.co.uk/cy-gb

More News Articles

  —