Rhaglen Hyfforddeiaeth: Ymgysylltu yn trawsnewid bywyd Josie

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Mae rhaglen Hyfforddeiaeth: Ymgysylltu gyda Hyfforddiant Llwybrau, adran dysgu seiliedig ar waith Grŵp Colegau NPTC, wedi trawsnewid bywyd Josie Pether.

Mae awtistiaeth ar Josie, 19 oed, o Lyn-nedd a gall unrhyw newidiadau yn ei bywyd, yn enwedig cwrdd â phobl newydd, achosi gorbryder a phyliau o banig.

Diolch i Hyfforddiant Llwybrau, cafodd leoliad gwaith mewn siop gyda Shaw Trust, elusen sy’n helpu pobl i gael gwaith ac addysg, datblygu eu gyrfa, gwella eu llesiant ac ailadeiladu eu bywydau.

Yn awr, cafodd ymdrechion Josie eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Roedd Josie mor hoff o’r lleoliad gyda Shaw Trust fel na chollodd hi ddim diwrnod o waith mewn pum mis ac erbyn hyn mae wedi symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn manwerthu. Mae wedi dod mor hyderus fel ei bod yn gallu gweithio ar lawr y siop a defnyddio’r til, sy’n syndod mawr o ystyried na allai edrych yn llygaid pobl pan ddechreuodd.

Mae ganddi griw o ffrindiau da yn y Shaw Trust ac mae wedi dysgu sgiliau newydd a fydd, gobeithio, yn arwain at waith llawn amser.

“Mae pawb wedi bod yn amyneddgar ac yn gefnogol iawn,” meddai Josie. “Gyda’u help a’u hanogaeth nhw, rwy’n dod yn fwy hyderus ac yn dysgu sgiliau newydd. Rwy’n falch fy mod i wedi penderfynu ymuno â Hyfforddiant Llwybrau a chael lleoliad gyda Shaw Trust achos mae’r ddau beth wedi fy helpu mewn ffyrdd gwahanol ac wedi newid fy mywyd er gwell.”

Dywedodd Lee Roberts, cynghorydd hyfforddiant Grŵp Colegau NPTC, bod Josie yn enghraifft ardderchog o’r ffordd y gall y rhaglen Hyfforddeiaeth: Ymgysylltu weithio yn achos pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu ddiffyg hyder a sgiliau cymdeithasol.

“Yn yr achos hwn, yn ogystal â galluogi Josie i symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, mae wedi’i helpu i ddod dros broblemau a fu’n ei phoeni ers blynyddoedd,” meddai. “Rwy’n eithriadol o falch o Josie ac yn dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch Josie ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —