Anne ysbrydoledig yn cael ei henwi’n Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ysbrydoledig a ddisgrifiwyd gan ei chyflogwr fel “ymgorfforiad dysgu gydol oes” wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith rhagorol.

Anne Reardon-James receiving her award

Anne Reardon-James yn derbyn gwobr Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn gan Darren Howells, prif weithredwr y noddwr Agored Cymru.

Ychwanegodd Anne Reardon-James, 46, sy’n byw yn Y Barri, wobr Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn at ei chasgliad yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn INC Cymru, Casnewydd.

Mae hi’n gynghorydd dysgu gyda Panda Education and Training, gan ddarparu Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu, mewn partneriaeth ag ALS Training. Mae gan Anne awch ddibendraw am wybodaeth ac mae’n rhannu ei gwybodaeth i ysbrydoli ei dysgwyr a’i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu ôl-16 yng Nghymru.

“Mae’r wobr hon yn hollol wych a bron yn ormod i’w chymryd i mewn,” meddai Anne, a enillodd wobr 2023 y Sefydliad Dysgu a Gwaith am Diwtor y Flwyddyn Ysbrydoli! am Sgiliau Gwaith y llynedd. “Mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda’n dysgwyr wrth ddarparu prentisiaethau o safon. Rwy’n credu y bydd fy nysgwyr yn gyffrous ar fy rhan.

“Ymunais â maes dysgu seiliedig ar waith yn hwyrach yn fy mywyd ac mae’n wych gallu helpu i fentora a chefnogi pobl i oresgyn eu rhwystrau. Rwyf wrth fy modd â’m gwaith ac rwyf yn wastad yn chwilio am ffyrdd gwahanol o’i gyflawni.”

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Maent yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner a sefydliad dyfarnu sgiliau arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ar hyn o bryd mae Anne yn astudio ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, ac mae ganddi MA mewn Addysg, TAR a gradd yn y Gwyddorau Ymddygiadol. Mae hi hefyd yn Gymrawd o SET, ac yn Gymrawd Cyswllt o’r CIPD a HE Advance.

Mae hi wedi gweithio ym maes addysg ôl-16 ers 17 mlynedd, gan addysgu llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned, darparu hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol i ddysgwyr cyflogedig, a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer y gwasanaethau prawf a charchardai.

Mae Anne yn selog dros Ddysgu Gydol Oes, ac yn ysbrydoli ei dysgwyr, drwy ddangos technegau a dulliau addysgu a dysgu y gallan nhw eu defnyddio yn eu hymarfer eu hunain.

Mae Anne yn cynnal gweithdai hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella’r broses ddysgu, mae’n cynnal cyfarfodydd mentora misol ac yn darparu cymorth personol wedi’i deilwra i ddysgwyr ledled Cymru.

Mae hi’n olygydd ar y cyfnodolyn Research and Practices in Adult Literacies, yn cyhoeddi blogiau, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac arfer da â grwpiau rhwydweithiau ar-lein.

Mae gwaith gwirfoddol Anne yn cynnwys addysgu Saesneg i ffoaduriaid Wcráin a’u cefnogi yn ei chartref ei hun, yn ogystal â siopa dros gleientiaid sy’n gaeth i’r tŷ ac ymweld â nhw.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:
“Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Anne ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae straeon fel eu rhai nhw yn dangos yn eglur iawn yr effaith fawr y gall prentisiaeth ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw yn rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —