Tîm Cymru yn Serennu mewn Cystadleuaeth Sgiliau Cenedlaethol
Mae Tîm Cymru wedi rhagori yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU eleni, gan hawlio cyfanswm o 51 o fedalau.
Allan o’r 115 o gystadleuwyr o Gymru a gymerodd ran, enillodd Tîm Cymru 8 medal aur, 21 o fedalau arian, 15 medal efydd, a 7 a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel. Mewn arddangosfa o ragoriaeth eithriadol, mae eu perfformiad yn golygu bod 40% o gystadleuwyr Cymru bellach wedi’u rhestru yn nhabl terfynol cynghrair eleni.
Ymhlith y colegau gorau yn y Deyrnas Unedig, roedd sefydliadau fel Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Sir Benfro, a Choleg Gwent. Mae eu dewis fel un o’r chwe choleg gorau yn y Deyrnas Unedig yn sail i’w rhaglenni hyfforddi eithriadol.
Mae Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn gystadleuaeth i dros 400 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac maen nhw’n cystadlu mewn cyfres o heriau i gael eu henwi orau yn y DU yn eu sgil galwedigaethol – o gynnal a chadw awyrennau i wneud melysion a choginio teisennau, i wyddoniaeth fforensig.
Mae WorldSkills UK yn cefnogi pobl ifanc i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau i arddangos yr arferion gorau yn rhyngwladol a chodi safonau sgiliau ar draws prentisiaethau ac addysg dechnegol.
Yn ogystal â dod ar frig tabl y gynghrair mewn sawl categori, ffynnodd Tîm Cymru yn y cystadlaethau Sgiliau Sylfaenol. Ar ôl cipio cyfanswm o 9 medal, mae’r cystadlaethau Sgiliau Sylfaenol yn arddangos sgiliau myfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth ddysgu.
Cyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol mewn seremoni fedalau yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion, gyda’r ddinas hefyd yn cynnal cyfres o gystadlaethau cenedlaethol mewn colegau, prifysgolion a gyda darparwyr hyfforddiant annibynnol.
Eleni, fe enillodd Ella Clements, o Aberaeron, fedal Arian yn y categori ‘Gwasanaethau Bwyty’. Dywedodd:
“Roedd ennill medal Arian yn WorldSkills y DU yn brofiad anhygoel! Ni allaf ddechrau disgrifio’r anrhydedd a deimlais.
“Mae cymryd rhan a pharatoi ar gyfer y cystadlaethau sgiliau wedi dysgu cymaint i mi, mae wedi dangos i mi beth mae gweithio’n galed yn gallu ei gyflawni. Mae’r cystadlaethau wedi agor drysau a llwybrau i ehangu fy ngyrfa ac wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau, sydd wedi fy ysbrydoli i lwyddo.”
Enillodd Rhys Rapado-Evans fedal Aur yn y categori cystadleuaeth Sgiliau Sylfaenol: Garddwriaeth. Dywedodd:
“Rwy’n teimlo’n hynod o falch o fod wedi ennill medal Aur yn rowndiau terfynol y DU. Dyma’r eildro i mi ennill Aur, ar ôl ennill un hefyd yn nigwyddiad rhanbarthol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.
“Ond nid ennill yw popeth i mi, rwy’n cymryd rhan yn y cystadlaethau i ddatblygu fy sgiliau a’m hyder. Y fantais fwyaf yw fy mod yn parhau i ddysgu i’m paratoi ar gyfer fy nyfodol.”
Lywodraeth Cymru a’i redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, nod WorldSkills y DU yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu cyflawniadau.
Mae cystadlaethau’n cychwyn ar lefel ranbarthol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru a gydlynir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ac yn symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae’n bleser mawr gen i longyfarch Tîm Cymru ar eu llwyddiant rhyfeddol yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU. Mae Tîm Cymru unwaith eto wedi dangos eu rhagoriaeth, gan ddod i’r amlwg fel cenedl lwyddiannus sydd wedi ennill 51 o fedalau, gan danlinellu ymroddiad a thalent ein gwlad.”
“Mae cystadlaethau sgiliau nid yn unig yn dathlu cyflawniadau unigol ond hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin talent pobl ifanc ledled Cymru i ddod yn weithwyr medrus yn y dyfodol.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf, gan ddarparu cyfleoedd iddynt arddangos eu galluoedd, ehangu eu gorwelion a chael cydnabyddiaeth genedlaethol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills y DU:“Mae’n wych gweld Tîm Cymru’n llwyddo yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU unwaith eto eleni.
“Mae ein rowndiau terfynol yn dathlu’r goreuon mewn talent ifanc ond hefyd yn gyfle hanfodol i weld sut mae’r sgiliau sydd gennym yn y DU yn cyfateb yn ddomestig ac yn erbyn ein cymdogion rhyngwladol.
“Bydd sgiliau yn parhau i fod yn allweddol i’n gwahaniaethu wrth wneud busnes yn y DU a thramor a thrwy ein rhaglenni rydym yn gweithio i sicrhau y gall pob prentis a myfyriwr ar draws y DU gael mynediad i addysg dechnegol a phrentisiaethau o ansawdd uchel sy’n arwain at lwyddiant gwirioneddol iddyn nhw a’r DU hefyd.”
Am ragor o wybodaeth am WorldSkills y DU a sut i ddechrau’r siwrnai fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr, ewch i: Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
More News Articles
« Cofrestru ar agor ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024! — Educ8 Training Group yn Sicrhau Lleoliad 5 Uchaf yng Ngwobrau ‘Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt’ »