![](/images/banner-news.jpg)
Cawr pecynnu yn edrych o’r newydd ar gynaliadwyedd gyda chymorth dysgu seiliedig ar waith
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru Sero Net, gan dynnu sylw at addysg ac uwchsgilio fel ffactorau allweddol sydd eu hangen i gyflawni’r nod hwn erbyn 2050.
O safbwynt busnes, mae hyn yn golygu y bydd angen i gyflogwyr roi cynaliadwyedd wrth wraidd eu cynllunio a’u gweithrediadau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i hyn, mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, wedi lansio cyfres o gymwysterau sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau i ddod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ACT. Y llynedd, derbyniodd y sefydliad ardystiad ISO 14001 am ei system rheoli amgylcheddol – safon ryngwladol. Ar hyn o bryd dyma’r unig ddarparwr hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i feddu ar y statws.
O’r herwydd, mae ACT mewn sefyllfa dda i ddarparu cymwysterau gwyrdd effeithiol a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o’u heffaith amgylcheddol bersonol a phroffesiynol.
Un sefydliad sydd wedi gweld manteision cymwysterau gwyrdd yn y gwaith yw’r darparwr pecynnu DS Smith.
Dechreuodd taith ddysgu’r tîm wrth i Bev Fowler, Pennaeth Gwasanaethau Busnes DS Smith, Global Master Data, sgwrsio â Rheolwr Llwybr Rheoli a Gwasanaethau Busnes ACT, Kelly Harry, am gynaliadwyedd. Roedd ACT newydd lansio achrediad newydd mewn Cynaliadwyedd ac fe aeth Bev ati ‘fel tipyn o arbrawf’ i weld a fyddai’r cwrs o fudd i’w thîm.
“Cefais fy synnu gan yr effaith y gall un person ei gael ar yr amgylchedd a’r gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud,” meddai Bev. “Pan archwiliais fy ôl troed carbon fel rhan o’r cwrs cefais fy siomi gan faint o wastraff roeddwn i a’m teulu bach yn creu.”
Gydag ailgylchu’n rhan fawr o weithrediadau DS Smith, mae gan y busnes ymrwymiad i’r economi gylchol ac ar ôl cwblhau’r achrediad roedd Bev yn awyddus i ddod â phrosiectau pellach yn fyw yng Nghaerffili (cartref swyddfa Gwasanaethau Busnes y DU’r cwmni a’u Prif Swyddfa Ailgylchu yn y DU).
I ddechrau, rhoddodd Bev 19 aelod o’r tîm Gwasanaethau Busnes drwy’r cwrs, gyda disgwyl i 50 arall gwblhau yn ddiweddarach eleni.
“Rwy’n credu bod angen i ni i gyd ddysgu am y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud,” ychwanegodd Bev. “Rydyn ni i gyd yn chwarae rhan mewn sut bydd y byd hwn yn edrych yn y dyfodol felly sut allwn ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol a chael ychydig o hwyl ar hyd y ffordd?
“Fe wnaeth y cwrs fy helpu i ystyried beth alla’i ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn?’
“Mae’n un peth i gwblhau’r achrediad ond peth arall yw ystyried sut byddwch chi’n ei ddefnyddio wedyn wrth symud ymlaen, a daeth llawer o’r gweithgaredd rydyn ni wedi cynllunio ar gyfer yr haf, fel plannu a chreu bocsys gwenyn ac ati, o hynny.”
Pan fydd busnes yn dewis ACT i gyflwyno ei ddysgu seiliedig ar waith, bydd aseswyr yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y cwrs yn gweithio i’r cyflogwr a’r gweithwyr. Yn achos DS Smith, cafwyd trafodaethau cychwynnol dros gyfyngiadau amser.
“Roeddwn ychydig yn bryderus am yr amser y byddai’r achrediad yn ei gymryd,” esboniodd Bev. “Mae gwaith sy’n rhaid i chi ei gwblhau cyn y cwrs, gallwch chi ddim cofrestru ar gyfer yr achrediad ar y diwrnod a disgwyl ei basio gyda marc da. Roeddem yn pendroni sut y gallem wneud y cwrs yn addas i’n cydweithwyr gan ein bod yn gwybod y byddai dweud bod angen i chi wneud gwerth dwy i dair awr o waith yn eich amser eich hun ac yna treulio diwrnod ar y cwrs, ynghyd â phrawf ar y diwedd, yn ddiwedd arni ar gyfer llawer o bobl.
“Roedd Kelly (o ACT) yn wych oherwydd fe wnaeth hi weithio gyda mi i’w addasu. Fe wnaethom ni drefnu amser i’r cydweithwyr gwblhau’r gwaith rhagarweiniol tra eu bod yn y gwaith a chyd-dwysodd Kelly y cwrs fel bod modd iddynt gwblhau’r elfen wyneb yn wyneb a’r prawf yn ystod eu diwrnod gwaith arferol.”
Mae ACT yn ystyried bod y busnesau y mae’n gweithio gyda nhw yn bartneriaid ac yn gweithio gyda nhw drwy gydol cwblhau cymwysterau a thu hwnt.
“Mae Kelly a minnau’n siarad yn rheolaidd am y cynnwys a chynnydd y cydweithwyr” parhaodd Bev. “Cawsom un cydweithiwr na lwyddodd i gyrraedd y nod ond mae hi wedi cynnig cefnogaeth i’w cynorthwyo i ailsefyll.
“Mae gweithio gyda Kelly wedi bod yn wych ac mae wastad rhywun yno i ofyn am help neu godi ymholiad. Byddwn yn argymell y cymhwyster i unrhyw fusnes gan ei fod yn bendant yn ychwanegu gwerth.”
Darganfod mwy am gymwysterau gwyrdd ACT, gan gynnwys y diploma newydd mewn Rheoli Ynni a Charbon.
More News Articles
« Ddarparwr hyfforddiant Cymru yn dod yn Arweinydd mewn Amrywiaeth — Llywio heriau a chyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial i ddysgwyr »