Llywio heriau a chyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial i ddysgwyr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Michael Webb, cyfarwyddwr technoleg a dadansoddeg yn Jisc

Roedd Tachwedd 2022 yn drobwynt yng nghanfyddiad y cyhoedd o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gan greu cymaint o gyffro ag o bryder. Mae pethau wedi symud yn gyflym dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf (ac yn enwedig yn ystod y chwe mis diwethaf) wrth i AI ddod yn rhan fwy integredig o’n bywydau pob dydd, gan gynnwys addysg a chyflogaeth.

Fel asiantaeth ddigidol, data a thechnoleg y DU ar gyfer addysg drydyddol a phartner darparu allweddol ar gyfer Digidol 2030: Fframwaith Strategol, mae Jisc yn cefnogi ein haelodau i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn gyflym mewn ffordd gyfrifoldrwy ddefnyddio cynlluniau peilot [1], cyngor ac arweiniad [2], digwyddiadau a chymunedau ymarfer AI [3] pwrpasol ar draws y sectorau addysg bellach a sgiliau ac addysg uwch.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer AI cynhyrchiol, sy’n cael effaith drawsnewidiol ar addysgu a dysgu.

AI Cynhyrchiol – mae’n fwy na dim ond ChatGPT
Er mai hwn yw’r un mwyaf adnabyddus yn ôl pob tebyg, mae ChatGPT ymhell o fod yr unig offeryn AI cynhyrchiol sydd ar gael, gyda thechnolegau newydd yn dod i’r amlwg ac yn esblygu’n fwyfwy rheolaidd i gefnogi defnyddwyr mewn tasgau megis codio, chwilio a dylunio cynnwys.

Mewn addysg a chyflogaeth, mae offer wedi eu pweru gan AI megis Teachermatic [4] a Microsoft Copilot [5] yn dod yn anhepgor ar gyfer tasgau megis cynhyrchu cyflwyniadau, paratoi deunyddiau dysgu ac awtomeiddio gwaith gweinyddol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw diweddar [6].

Mae AI hefyd yn dod yn rhan fwyfwy integredig o’r offer y mae llawer ohonom yn eu defnyddio bob dydd, megis Google Workspaces, Microsoft Teams a hyd yn oed Snapchat, sy’n golygu nad yw osgoi AI yn llwyr yn opsiwn mewn gwirionedd.

Defnyddio AI yn foesegol
Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau naill ai ar y cam ‘agosáu a deall’ neu ‘arbrofi ac archwilio’ wrth ddefnyddio AI, sef yr amser perffaith i ddechrau datblygu prosesau cyfrifol a chanllawiau ar gyfer sut rydych chi am i ddefnyddwyr ryngweithio ag AI yn eich sefydliad chi.

O ystyried y cynnydd dros nos syfrdanol yn y defnydd o offer AI cynhyrchiol mewn addysg, does ryfedd i hyn greu cryn ofid ymhlith llawer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr. Roedd y pryderon yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfleoedd i gamddefnyddio a’r effaith ar uniondeb academaidd ac asesu.

Daeth rhywfaint o dawelwch meddwl yn sgil cyflwyno synwyryddion AI ond, mewn gwirionedd, ni all unrhyw system heddiw brofi’n derfynol bod testun wedi’i ysgrifennu gan AI, felly mae pwysigrwydd gwell dealltwriaeth o ddefnydd moesegol ar gyfer dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd yn hollbwysig. Hefyd, mae angen y sgiliau ar fyfyrwyr i ddefnyddio AI yn y gweithle, felly mae angen adlewyrchu hynny rywsut mewn asesiadau.

Yn ddiweddar aeth Jisc mewn partneriaeth â Chymdeithas y Colegau (AoC) [7] ati i lunio cyfres o egwyddorion [8] sydd wedi eu bwriadu i helpu colegau a darparwyr AB i lywio’r heriau a gwneud yn gorau o gyfleoedd AI. Mae’r egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau bod gan ddysgwyr ac athrawon y sgiliau y mae eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd lle mae dylanwad AI yn prysur gynyddu.

Agweddau dysgwyr tuag at AI cynhyrchiol
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr heddiw yn defnyddio AI cynhyrchiol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Yng ngwanwyn 2023, lluniodd Jisc adroddiad yn dilyn cyfres o fforymau trafod i ddeall yn well ganfyddiadau myfyrwyr o AI [9], gan gynnwys defnydd dysgwyr, pryderon allweddol a disgwyliadau ynghylch y rôl y gallai AI ei chwarae yn y profiad addysgol.

Dangosodd y canfyddiadau fod dysgwyr yn defnyddio AI cynhyrchiol mewn amrywiol feysydd i wella eu bywydau academaidd a phersonol, a’u bod yn credu bod cofleidio deallusrwydd artiffisial yn eu grymuso i gyfrannu’n ystyrlon at fyd sy’n cael ei yrru gan AI.

Mae gan ddysgwyr ddisgwyliadau clir hefyd o’r hyn y mae ei angen arnynt gan eu sefydliadau i’w helpu i ddefnyddio AI yn effeithiol, gyda’r pwyslais ar gyngor ac arweiniad ynghylch y sgiliau y mae eu hangen arnynt a’r offer y dylent eu defnyddio. Mae ymgynghori hefyd yn ystyriaeth allweddol, gan fod dysgwyr am fod yn rhan o wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio AI yn eu haddysg eu hunain, gan ofyn am ddeialog agored a chydweithio ar y pwnc.

Naw mis yn ddiweddarach, cyn bo hir byddwn yn lansio’r adroddiad ‘canfyddiadau myfyrwyr o ddeallusrwydd artiffisial’ nesaf, er mwyn parhau â’r drafodaeth gyda dysgwyr wrth i dechnoleg barhau i esblygu.

Arbed amser i staff
Mae offer megis Teachermatic [4] a Graide [10] wedi bod yn chwyldroi’r defnydd o AI yn yr ystafell ddosbarth, gan helpu athrawon gyda’u tasgau pob dydd a mynd i’r afael â heriau llwyth gwaith.

Mae’r gallu, er enghraifft, i greu cynlluniau gwersi, cwisiau a gweithgareddau dysgu yn gyflym yn seiliedig ar y cwricwlwm, ac sy’n berthnasol i wahanol alluoedd ac ieithoedd, wedi galluogi staff i ganolbwyntio ar y sgiliau dynol craidd na all technoleg eu haddysgu, ond y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr.

Bu sgil-effaith fuddiol hefyd o ran hybu lles rhai athrawon, megis y staff yng Ngholeg Technoleg Basingstoke [11], a gafodd eu nosweithiau a’u penwythnosau yn ôl, ac a adenillodd eu creadigrwydd pan symudwyd y baich gweinyddu diangen.

Y ffordd ymlaen
Wrth i’r offer hyn amlhau, ac wrth i ganllawiau ar gyfer defnydd moesegol a chyfrifol ddod yn fwyfwy sefydledig, dim ond cynyddu fydd y cyfleoedd i ddefnyddio AI cynhyrchiol i wella dysgu ac addysgu.

Ar gyfer sefydliadau sy’n symud tuag at y camau ‘gweithredol’ a ‘gwreiddiedig’ o fabwysiadu AI, bydd strategaeth ac egwyddorion clir ar gyfer eu defnyddio yn hanfodol i sicrhau defnydd moesegol a phriodol.

Y nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau i ffynnu mewn gweithle sy’n cael ei bweru gan AI. Mae technoleg newydd bob amser yn arwain at fathau newydd o swyddi, ac nid yw AI yn wahanol yn hyn o beth − er enghraifft, ymddangosiad rolau peirianwyr anogwyr. Amcangyfrifir y gallai 10-30% o’r holl swyddi gael eu hawtomeiddio gan AI*, sy’n ffigwr brawychus, ond mae cyfleoedd gyrfa newydd yn dod i’r amlwg yn rheolaidd wrth i gyflogwyr sylweddoli’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt o dechnolegau newydd. The impact of AI on UK jobs and training [12].

Mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf o swyddi’n cynnwys rhyw elfen o sgiliau AI yn y dyfodol, ac mae llythrennedd AI eisoes yn uchel ar y rhestr i lawer o gyfwelwyr ochr yn ochr â sgiliau dynol hanfodol, megis meddwl yn feirniadol, y gallu i addasu a gwneud penderfyniadau moesegol.

Yn ystod y deunaw mis diwethaf, gwelwyd corwynt o arloesi ac addasu ym maes AI mewn addysg a chyflogaeth, ac mae’r cyflymder yn debygol o barhau. Bydd cydweithio rhwng y gweithle a’r ystafell ddosbarth yn hanfodol i sicrhau bod dysgwyr yn ennill y sgiliau y mae eu hangen ar gyflogwyr. Cyn belled â bod dysgwyr ac addysgwyr yn parhau i fod yn hyblyg, â meddwl agored ac yn awchus i ddysgu, mae cyfnod cyffrous o’n blaenau.

[1] peilot
[2] cyngor ac arweiniad
[3] chymunedau ymarfer AI
[4] Teachermatic
[5] Microsoft Copilot
[6] ein canllaw diweddar
[7] Chymdeithas y Colegau (AoC)
[8] lunio cyfres o egwyddorion
[9] trafod i ddeall yn well ganfyddiadau myfyrwyr o AI
[10] Graide
[11] Ngholeg Technoleg Basingstoke
[12] The impact of AI on UK jobs and training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —