Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Cardiff's Bute Park in the autumn viewed from the air

Cynllunio Cyflogaeth a Sgiliau 2022-25:

Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) wrthi’n datblygu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd newydd (2022-25) a gaiff ei lansio yr hydref hwn.

Er mwyn hybu ysbryd cyd-adeiladu, cynhaliwyd digwyddiad Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a oedd yn gyfle gwych i ddechrau ymgysylltu â chyflogwyr a darparwyr dysgu ôl-16. Daeth dros 160 o randdeiliaid i’r digwyddiad. Bydd gwybodaeth a gasglwyd ar y diwrnod yn helpu i lywio cyfeiriad strategol sgiliau yn y rhanbarth dros y tair blynedd nesaf.

Yn ogystal, dros y misoedd diwethaf, bu PSPRC yn defnyddio’i grwpiau clwstwr blaenoriaeth cysylltiedig i ddatblygu argymhellion tymor byr a hirdymor i’w cyflawni trwy’r Cynllun.

Yn olaf, mae Arolwg Sgiliau PSPRC yn cynnig cyfle arall i ddylanwadu ar y cyfeiriad a gellir ei lenwi mewn dim ond 10 munud. Cliciwch ar y ddolen isod i gymryd rhan a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am eich gofynion o ran sgiliau a hyfforddiant, a lle mae angen dyrannu cyllid er mwyn ateb y galw. Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022

Gwarant i Bobl Ifanc gan Lywodraeth Cymru:

Mae’r Rhaglen Lywodraethu newydd yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol i gyflawni’r Warant i Bobl Ifanc, gan gynnig cymorth i bawb dan 25 i gael gwaith, lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i fynd yn hunangyflogedig.

Fel rhan o’r Warant, gofynnodd Llywodraeth Cymru i PSPRC ymgynghori â rhaglenni a phrosiectau rhanbarthol er mwyn deall yn well beth sydd ar gael yn ne-ddwyrain Cymru. Yma, bu PSPRC yn cydweithio â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) gan gynnal gweithdai strategol llwyddiannus i gyfrannu at y canfyddiadau.

O ganlyniad i’r gwaith, bydd PSPRC yn cefnogi datblygiad Grŵp Rhanddeiliaid rhanbarthol y Warant i Bobl Ifanc a fydd yn dal i fwydo gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac i gyfrannu at flaenoriaethau’r dyfodol.

Sgiliau Gwyrdd ar gyfer Cymru Sero Net:

Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi pwyslais mawr ar symud tuag at Gymru Sero Net ond, er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid sicrhau ein bod yn cael y bobl iawn, sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau iawn. Heb y wybodaeth a’r sgiliau priodol, ni fydd y llif hanfodol o swyddi sy’n angenrheidiol i gefnogi’r daith tuag at Gymru Sero Net yn bodoli.

Bu PSPRC yn cydweithio â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol eraill mewn perthynas â’r economi werdd, gan gomisiynu Data Cymru i arwain prosiect ymchwil i helpu i ganfod y swyddi gwyrdd sy’n datblygu ac asesiad o’r bylchau cysylltiedig mewn sgiliau.

Yn fwy diweddar, bu PSPRC yn cydweithio â HyCymru, Cymdeithas Fasnach Hydrogen Cymru, Sero Net Cymru: y Fforwm Cynghori ar Economïau Sgiliau a thrwy Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) Llywodraeth Cymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r heriau sydd ar y gorwel o ran sgiliau. Bydd y trafodaethau hyn yn cyfrannu at Gynllun Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru a gaiff ei lansio cyn ddiwedd y flwyddyn.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —