Educ8 Training yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae staff yr Educ8 Training Group o dde Cymru yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr yn y Deyrnas Unedig ddydd Gwener 23 Mehefin.

Large group of Educ8 staff sitting on grass outside the office

Trefnir y digwyddiad y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr (EOA) a’r thema eleni yw #TheEOeffect. Ei nod yw dangos faint o les y mae perchnogaeth gweithwyr yn ei wneud i weithwyr, busnes, yr economi ehangach, cymunedau a’r amgylchedd.

Mae’r Educ8 Training Group, a ffurfiwyd yn 2004 ac sy’n cyflogi dros 250 o staff, yn ddarparwr prentisiaethau a hyfforddiant arobryn sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr. Ers mis Chwefror 2022, mae’r gweithwyr yn berchen ar y cwmni.

Dywedodd Colin Tucker, Cadeirydd yr Educ8 Training Group,


“Mae ein pobl yn golygu popeth i ni. Heb weithlu brwdfrydig ac ymroddedig fyddai’r cwmni ddim wedi tyfu mor fawr nac wedi ennill cymaint o glod. Roedden ni’n hynod falch o ddod yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr.

Rŷn ni’n awyddus i gydweithio â’r Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT) a Bwrdd y Grŵp i greu amgylchiadau lle rŷn ni’n dod yn batrwm yn y byd EOT, gan hybu cyfoeth trwy ein gweithwyr a’i gyfeirio i’n cymunedau. Rydym yn edrych i’r dyfodol gyda chyffro ac yn edrych ymlaen at gydweithio â’n holl bartneriaid i gyflawni’r dyheadau sydd gennym yn gyffredin.”

Ac meddai Grant Santos, Prif Swyddog Gweithredol Educ8 Training Group, “Mae’n anodd credu bod dros flwyddyn wedi mynd ers i Educ8 ddod yn fusnes ym mherchnogaeth gweithwyr. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un hynod o brysur, gyda Haddon Training ac Aspire2Be yn ymuno â’r grŵp gan sicrhau rhagor o dwf. Mae gennym 50 aelod yn rhagor o staff ac mae ein statws fel cwmni ym mherchnogaeth gweithwyr, yn sicr wedi helpu i gadw a recriwtio staff.”

I gyd-fynd â Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr, mae’r Educ8 Training Group yn lansio fforwm gweithwyr i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth ymhellach a hybu ymgysylltiad gweithwyr. Bydd y fforwm yn sianel rhwng yr EOT, bwrdd gweithredol y grŵp a’r gweithwyr.

Yn ogystal, mae’r grŵp yn lansio cystadleuaeth i staff – dylunio logo ar gyfer yr EOT, gyda gwobr i’r cynnig sy’n dod i’r brig.

Dywedodd James de le Vingne, Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr, “Mae cwmnïau fel Educ8 Training Group yn enghreifftiau gwych o fanteision posibl – economaidd a chymdeithasol – rhoi llais i weithwyr yn y busnes lle maen nhw’n gweithio. Ers y ddechrau, mae Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr wedi llwyddo i gyrraedd mwy a mwy o bobl ac mae sector perchnogaeth y gweithwyr wedi tyfu’n fwy, gyda’r ddau beth wedi mwy na dyblu yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, mae gennym gyfle i gyflymu twf a chyrraedd cynulleidfaoedd hyd yn oed yn ehangach er mwyn codi llais dros berchnogaeth gweithwyr a’i effaith.

Eleni, bydd y Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr yn codi ymwybyddiaeth o fanteision perchnogaeth gweithwyr i fusnesau a gweithwyr. Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae manteision perchnogaeth gan weithwyr, i weithwyr, busnesau ac ardaloedd lleol, yn arbennig o berthnasol. Trwy ddathlu, gallwn helpu i ddangos effaith perchnogaeth gweithwyr a #TheEOeffect.”

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig a bydd miloedd o weithwyr-berchnogion a phartneriaid yn cymryd rhan. Dechreuwyd cynnal y Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr i godi ymwybyddiaeth o berchnogaeth gweithwyr fel model busnes economaidd cryf a chytbwys.

Dywedodd Tracey O’Neill, Pennaeth Adnoddau Dynol yn Educ8 Training Group, “Mae bod yn rhan o EOT yn rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Pe baem yn gwerthu’r cwmni ryw dro, rydym yn gwybod y byddai cyfran yr EOT o enillion y gwerthiant yn cael ei rhannu rhwng y gweithwyr. Pwy a ŵyr pa gyfleoedd allai godi mewn blynyddoedd i ddod. Mae’r EOT yn sicrhau gwaddol a fydd yn parhau ac yn tyfu. Os caiff y cwmni ei werthu yn y dyfodol bydd y gweithwyr yn cael rhan o’r enillion, sy’n wych.”

Mae manteision perchnogaeth gweithwyr wedi’u profi mewn ymchwil dan arweiniad y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr (EOA). Ymhlith y manteision mae gwella iechyd a lles gweithwyr, cynyddu cynhyrchiant a meithrin creadigrwydd ac arloesedd mewn llawer o sectorau diwydiant.
Mae cwmnïau sydd ym mherchnogaeth gweithwyr yn cyfrannu dros £30 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Yn ogystal, mae gweithwyr-berchnogion yn cael mwy o foddhad yn eu gwaith, maent yn teimlo’u bod yn cyflawni mwy ac yn teimlo mwy o sicrwydd yn eu swydd. Maent hefyd yn fwy tebygol o argymell eu gweithle na gweithwyr mewn busnesau nad ydynt yn eiddo i’r gweithwyr.

Mae busnesau sydd ym mherchnogaeth gweithwyr yn gweithredu mewn nifer o sectorau gan gynnwys gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddiant, trafnidiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu a gwasanaethau proffesiynol.

Dysgwch fwy am yr Educ8 Training Group, dewch yn rhan o’n EOT ac ymunwch â’n tîm.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —