Dileu dirgelwch galluogrwydd digidol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Daeth technolegau digidol â newidiadau mawr i’r ffordd y mae pobl Cymru’n byw, yn dysgu ac yn gweithio. Yn ogystal, mae technolegau digidol yn golygu bod bywyd personol a chymunedol pobl yn newid yn gyflym, er enghraifft o ran cysylltiad pobl â’i gilydd, y ffordd maent yn cael eu newyddion ac yn deall y byd, y ffordd maent yn cymryd rhan mewn democratiaeth a mwy.

Fan graph in regard to article

Canfu adolygiad o ymchwil, polisi ac ymarfer a gynhaliwyd er mwyn cynllunio dysgu digidol a chyfunol fod technolegau digidol yn y gwaith yn creu cyfleoedd a risgiau newydd i weithwyr. Mae swyddi a galwedigaethau’n newid. Gwelir swyddi newydd yn datblygu sy’n seiliedig ar dechnoleg, er enghraifft ym maes seiberddiogelwch, cyfrifiadura cwmwl, ynni gwyrdd a pheirianneg deallusrwydd artiffisial. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o swyddi’n dal wedi’u seilio ar yr economi sylfaenol, gyda thechnolegau digidol mewn rôl ategol. Mae iechyd a gofal digidol, a thechnoleg addysgol ei hun, yn sectorau sy’n ehangu ac sy’n fwyfwy tueddol o lywio natur y gwaith a wneir yn yr economi ehangach.Yn y bôn, mae’r galluoedd digidol y mae ar bobl eu hangen yn newid a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y sgiliau, y dulliau gweithredu a’r technolegau y mae ar addysgwyr eu hangen er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer gwaith a llwyddiant.

Ers 2021, bu Jisc yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu a rhedeg enghraifft bwrpasol o’r offeryn darganfod Building Digital Capability, gan hybu datblygiad sgiliau digidol yn uniongyrchol wrth staff ar draws y sector ôl-16 yng Nghymru. Gallai staff asesu lefel eu gallu digidol eu hunain, cael adroddiad personol yn amlinellu eu cryfderau a’u gwendidau, a chael eu cyfeirio at nifer o adnoddau a ddewiswyd gan arbenigwyr er mwyn gwella eu sgiliau eto.
Yn ogystal, canfu’r prosiect dueddiadau sefydliadol a chenedlaethol y gellid mynd i’r afael â nhw ar y cyd. O safbwynt cenedlaethol, nododd Jisc bedwar maes lle’r oedd staff yn ymddangos yn llai hyderus:

  • Llythrennedd data – sut rydych yn trin data fel math arbennig o wybodaeth.
  • Creu digidol – cynhyrchu deunydd yn ddigidol, o waith technegol fel codio apiau newydd i greu delweddau a dogfennau digidol, a gwefannau.
  • Defnyddio dulliau digidol i ddatrys problemau ac arloesi – y gallu i ddatrys problemau, gwneud penderfyniadau ac ateb cwestiynau gan ddefnyddio tystiolaeth ddigidol a’ch parodrwydd i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ac i ddefnyddio technoleg ddigidol i chwilio am atebion.
  • Dysgu ac addysgu digidol – y gallu i ddefnyddio cyfleoedd digidol i ddysgu pethau ac i gefnogi a datblygu eraill mewn ffyrdd digidol.

Yn aml, mae diffyg hyder yn codi o ddryswch ynglŷn â’r labeli ar gyfer sgiliau, teimlo bod angen i chi wybod popeth, neu or-feddwl am rywbeth. Trwy gydol Mehefin a Gorffennaf, mae Jisc yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein gyda’r nod o ddileu dirgelwch galluogrwydd digidol, gan edrych i weld sut y gall sgiliau digidol feithrin hyder i ddefnyddio gwahanol dechnolegau a dulliau gweithredu, gan arwain at fwy o foddhad yn y gwaith ac, felly, staff mewn gwell sefyllfa i gefnogi dysgwyr â’u dyheadau digidol.

Mae Jisc yn bwriadu cynnal rhagor o weithdai yn yr hydref ar gyfer pobl sy’n methu mynd yn yr haf.

Os hoffech wybod mwy am y gweithdai, sut i gyrraedd at y gwasanaeth meithrin galluogrwydd digidol a’i ddefnyddio, neu sut y gall Jisc gefnogi eich taith ddigidol, cysylltwch â’ch rheolwr perthynas Jisc.

Jisc Wales

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —