A ninnau ar drothwy cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn y Celtic Manor yfory (31 Hydref), dyma’r prif weithredwr, Arwyn Watkins, yn sôn am faterion sy’n amlwg ym meddyliau darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Postiwyd ar gan karen.smith

Arwyn Watkins, CEO NTfW

Ni fydd yn syndod i ddarllenwyr glywed bod byd cyflenwi sgiliau a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn newid yn barhaus. Felly, mae’n hollbwysig i aelodau NTfW, fel rhwydwaith, barhau i symud gyda’r oes ac addasu i’r newidiadau yn yr hinsawdd economaidd.

Rwy’n credu nad oes modd i’r rhwydwaith barhau i gyflenwi rhaglenni dysgu sy’n cael eu gyrru gan y cyflenwad. Mae’n rhaid symud i gyflenwi rhaglenni sy’n dilyn y galw, gan roi’r cyflogwr wrth galon y broses. Heb y cyflogwr, nid oes dyfodol i ddysgu seiliedig ar waith.

Mae tair Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol Cymru wedi casglu gwybodaeth am y farchnad lafur a fydd yn hanfodol i’r rhaglenni dysgu y byddwn yn eu cyflenwi o hyn ymlaen. Does dim pwynt i ni drefnu rhaglenni nad oes tystiolaeth bod galw amdanynt.

Mae’n rhaid i ni, fel rhwydwaith, gydweithio mwy a gweithio’n fwy effeithiol i sicrhau cyfleoedd am hyfforddiant a gwaith i ddysgwyr rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Mae arnom ni, yn y rhwydwaith, ddyletswydd i helpu pobl i symud yn esmwyth ac yn effeithiol ar hyd eu llwybr dysgu a’r tu hwnt.

Ond mae’n rhaid i mi bwysleisio nad ni yw’r pedwerydd gwasanaeth argyfwng. A ninnau’n rhan hanfodol o’r system addysg a sgiliau, rydym yn dibynnu’n fawr ar ein partneriaid ym myd addysg orfodol ac addysg uwch i wneud eu rhan nhw fel rhan o daith y dysgwyr.

Rydyn ni fel rhwydwaith yn dal i frwydro i sicrhau bod llwybrau dysgu galwedigaethol yn cael yr un parch â rhai academaidd yng Nghymru. Dyma fu’r Greal Sanctaidd i’r Ffederasiwn ers ei ffurfio. Mae’n sicr bod llwyddiant y rhwydwaith wedi cyfrannu at roi lle amlwg iawn i NTfW ym maes polisi a thrafod addysg a sgiliau. Mae’n rhaid i ni ddweud yn hollol glir wrth wneuthurwyr polisi bod prentisiaethau’n talu ar eu canfed i’r trethdalwyr am eu buddsoddiad ac yn cymharu’n ffafriol ag addysg bellach yn hyn o beth.

Wrth symud ymlaen, mae’n rhaid i ni geisio cael gwared â biwrocratiaeth, dyblygu gwaith a gwastraff o faes dysgu seiliedig ar waith fel bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar gyflenwi dysgu yn hytrach nag ar yr holl waith papur cysylltiedig. Rwy’n amcangyfrif bod tuag un rhan o dair o’n cyllideb yn cael ei gwario ar hyn o bryd ar y biwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â chyflenwi rhaglenni dysgu.

Rwy’n mynd i alw ar Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i gomisiynu’r NTfW i adolygu faint o fiwrocratiaeth sydd yn y system a chanfod ai rhywbeth hanesyddol ydyw ynteu a oes gwir angen amdano. Os yw’n ddiangen, dewch i ni gael gwared arno fel bod yr arian y mae’r trethdalwyr wedi gweithio’n galed amdano’n cael ei wario lle mae’r angen mwyaf amdano – ar y dysgwyr – er mwyn gwneud dysgu seiliedig ar waith yn fwy cynaliadwy i bawb. Rydym wedi bod yn trafod y mater pigog hwn ers sefydlu’r NTfW ond mae wedi dod yn bryd i ni gymryd camau pendant.

Mae proses y tendr dysgu seiliedig ar waith yn ddiweddar wedi bod yn amser pryderus iawn, nid yn unig i ddarparwyr dysgu ond hefyd i ddysgwyr a chyflogwyr gan fod arnynt angen gwybod pa raglenni a gaiff eu hariannu a phwy fydd yn eu cyflenwi. Rydym yn deall bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn sicr eu bod yn cael yr ansawdd gorau a’r gwerth gorau am arian gan y rhaglenni a gyflenwir yng Nghymru. Ond hoffwn awgrymu nad yw proses dendro sy’n cymryd cymaint o amser yn cynnig gwerth da am arian.

Yn ôl swyddogion caffael yn Llywodraeth Cymru, does dim ffordd arall o gynnal y broses, ond mae’n rhaid bod gwell ateb na hyn a dyna yw’r her i AdAS yn y flwyddyn nesaf. Rwy’n credu bod darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi ennill yr hawl i gael eu trin fel rhannau eraill o’r sector addysg a sgiliau yng Nghymru.

Fel y soniais, mae pyst y goliau’n symud trwy’r amser ym maes dysgu seiliedig ar waith. Y cam nesaf i ni fydd newidiadau i safonau Sgiliau Hanfodol Cymru ac fe allai hynny effeithio ar gyfraddau cwblhau’r fframwaith. Yna, mae mater cyflogwyr yn cyd-fuddsoddi mewn prentisiaethau. A fydd Cymru’n dilyn Lloegr gan ddiwygio’r rhaglen brentisiaethau fel y bydd y cyflogwr, yn hytrach na’r darparwr hyfforddiant, yn cael y cyllid ar gyfer prentisiaid? Ai dyma’r amser i ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael i ni yng Nghymru ar gyfer sicrhau Cynllun Benthyciadau Prentisiaid fel bod pawb yn cael cyfle cyfartal pa lwybr bynnag y maent yn ei ddewis ar ôl 19. Amser a ddengys.

Yr un peth yr wyf yn sicr ohono yw bod gennym rwydwaith ardderchog o ddarparwyr i wireddu’r uchelgais ym maes sgiliau yng Nghymru.

More News Articles

  —