Dathlu llwyddiant goreuon Cymru mewn seremoni wobrwyo ym maes prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

Cafodd cyfarwyddwyr cwmni effeithiau arbennig o Gaerdydd, sy’n arfer gweithio y tu ôl i’r llenni ar gyfresi teledu poblogaidd fel Dr Who a Casualty, fwynhau tipyn o sylw ar y llwyfan neithiwr (nos Wener) yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Carmela a Danny Hargreaves

 

Carmela a Danny Hargreaves, o Real SFX, oedd enillwyr gwobr Cyflogwr Bychan y Flwyddyn yn y seremoni yn y Celtic Manor, Casnewydd, lle gwobrwywyd dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gorau Cymru.

Roedd gwobrau hefyd i ddau gigydd o ogledd-ddwyrain Cymru – y ddau ohonynt wedi ennill gwobr Cigydd Ifanc Cymreig y Flwyddyn. Enwyd Tom Jones o siop gigydd Jones, Llangollen, yn Brentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, a Matthew Edwards, sy’n gweithio i gigydd teuluol Vaughan’s, Pen-y-ffordd, ger Caer, yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn.

Cafwyd cyfle i ddathlu’r dechnoleg ddiweddaraf mewn busnesau blaengar, rhaglenni prentisiaeth pwrpasol sydd wedi’u cynllunio i ateb anghenion gwahanol ddiwydiannau a llwyddiant ysbrydoledig gan unigolion yn y seremoni wobrwyo.

Trefnwyd y gwobrau, sy’n dathlu rhagoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Cawsant eu noddi gan Pearson, gyda chymorth Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Maent yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Yn ogystal, maent yn ffordd wych o werthuso gwaith hyfforddi a datblygu, ac o ysgogi unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Carmarthenshire Construction Training Association Ltd

 

Gwobrwywyd y Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL) am eu llwyddiant yn hyfforddi prentisiaid ifanc wrth iddynt ennill Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.

Cafodd GE Aviation Wales o Nantgarw eu cydnabod am fuddsoddi dros £1 miliwn y flwyddyn mewn prentisiaethau wrth ennill gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, a chyflwynwyd gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn i BBC Cymru Wales am ddatblygu doniau ifanc.

Aeth gwobr Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn i Babcock Training o Gaerdydd sydd â dros 1,000 o ddysgwyr yng Nghymru a’r Wobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol i gwmni arall o’r brifddinas, sef Hyfforddiant ACT.

James Parry

 

Un o brentisiaid Airbus Operations Ltd, Brychdyn enillodd Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn eleni eto, sef Devon Sumner y tro hwn, ac roedd y ffaith ei fod wedi arbed hyd at £6 miliwn i’w gyflogwr yn help i James Parry o’r Pentre, Rhondda Cynon Taf, ennill gwobr Prentis y Flwyddyn.

Helen Brickley, 24, o Bontllan-fraith, y Coed-duon, a gafodd droedle yn y diwydiant ffasiwn diolch i Twf Swyddi Cymru, a enillodd eu gwobr Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn.

Mae Nicole Evans, Bangor, wedi canfod mai coginio yw ei gwir alwedigaeth a hi oedd enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu). Cafodd Ashley Coleman o Gaerdydd ei wobrwyo am ei ymroddiad trwy ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1).

Dyma’r enillwyr: Cyflogwr Bychan y Flwyddyn, Real SFX, Caerdydd. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL). Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, GE Aviation Wales, Nantgarw. Macro-gyflogwr y Flwyddyn, BBC Cymru Wales. Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn, Babcock Training Limited, Caerdydd. Gwobr i Ddarparwr Prentisiaethau am Ymatebolrwydd Cymdeithasol, Hyfforddiant ACT, Caerdydd.

Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn, Devon Sumner, Airbus Operations Ltd, Brychdyn. Prentis y Flwyddyn, James Parry o’r Pentre, Rhondda Cynon Taf. Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, Tom Jones, Jones Butchers, Llangollen. Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Matthew Edwards, Vaughan’s Family Butchers, Pen-y-ffordd, ger Caer.

Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru, Helen Brickley, Pontllan-fraith, y Coed-duon. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu), Nicole Evans, Bangor. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1), Ashley Coleman, Caerdydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Dyma’r tro cyntaf i mi fod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru ac rwy wedi fy mhlesio’n fawr â’r safon. Rwy wrth fy modd o weld cynifer o gyflogwyr yn cefnogi cynlluniau prentisiaethau ac mae brwdfrydedd ac uchelgais y bobl ifanc ar y rhaglenni hyn yn heintus.
 
“Mae meithrin pobl ifanc fedrus yn hanfodol er mwyn ein heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynlluniau hyfforddi fel prentisiaethau ond mae’n gyfrifoldeb i’w rannu rhwng y sector addysg, busnesau, unigolion a’r Llywodraeth.
 
“Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, yn enwedig o ran cynnig cyfleoedd i bobl iau. Ar hyn o bryd, mae dros wyth o bob deg yn cwblhau eu prentisiaeth.
 
“Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant sgiliau ledled Cymru ac mae’r gwobrau’n gyfle i ddathlu llwyddiant y gwaith.”

Dywedodd Arwyn Watkins, prif weithredwr NTfW: “Mae’r gwobrau hyn yn arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, dangos agwedd ddeinamig at ddysgu, a dangos brwdfrydedd, menter, dyfeisgarwch, creadigrwydd ac ymrwymiad i wella’u sgiliau er mwyn hybu economi Cymru.”

More News Articles

  —