Mai 20 – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn nesáu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae’r ceisiadau’n llifo i mewn ar gyfer gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a ninnau’n nesáu at y dyddiad cau ar 20 Mai.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr llwyddiannus, prentisiaid ysbrydoledig ac ymarferwyr dawnus dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru a’u cyflwyno cyn 12 o’r gloch, hanner dydd, ar y dyddiad cau, 20 Mai.

O blith yr holl ymgeiswyr, bydd rhestrau byrion yn cael eu tynnu mewn naw categori. Y categorïau yw Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn, sy’n cynnwys prentisiaid gradd eleni, am y tro cyntaf.

Mae categori “Doniau’r Dyfodol” yn rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddynt ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr’.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer Cyflogwr Bach, Canolig, Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn cydnabod pobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y Senedd, y disgwylir iddo ddod i ben yn 2026.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Hoffwn annog pawb sy’n ymwneud â’n Rhaglen Brentisiaethau i ddathlu’r hyn y maent wedi’i gyflawni, ac ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl trwy gymryd rhan yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a rhannu’r straeon am eu llwyddiant.”

Mae dau o enillwyr gwobrau 2021 wedi tanlinellu gwerth ymgeisio yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.

Dywedodd Karen Richards o ACT, Caerdydd, enillydd gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: “Roedd y wobr yn gadarnhad bod fy ymdrechion nid yn unig wedi’u cydnabod ond eu bod yn cael eu gwerthfawrogi hefyd, ac mae hynny’n bwysig. Roedd fy mhen yn y cymylau am o leiaf fis wedyn!

Karen Richards, winner of the Work-based Learning Tutor of the Year award last year.

Karen Richards, ACT, Caerdydd.

“Mae’r gwobrau’n gyfle i ddathlu a chydnabod gwaith ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ac effaith prentisiaethau ar ddysgwyr hefyd.

“Roedd straeon gwych yn y noson wobrwyo y llynedd – straeon a ddylai annog dysgwyr, ymarferwyr a busnesau i’w herio eu hunain. Rwy’n falch iawn fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr.”

Convey Law o Gasnewydd, sydd â Rhaglen Brentisiaethau fewnol arloesol ar gyfer trawsgludwyr, a enwyd yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn 2021.

Ers iddo ennill y wobr, mae’r cwmni wedi casglu tair gwobr arall yn y diwydiant i gydnabod ei wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, mae wedi recriwtio 60 aelod newydd o staff gan ehangu’r gweithlu i 170, ac mae’n bwriadu agor swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Lloyd Davies: “Roedd yn deimlad hynod bwerus i bob un ohonon ni yn Convey Law i gael cydnabyddiaeth swyddogol gan Lywodraeth Cymru trwy gyrraedd y rhestr fer ac ennill y wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Lloyd Davies, managing director of Convey Law, which was named Medium Employer of the Year in 2021 awards.

Lloyd Davies, rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Casnewydd.

“Mae ein rhaglen hyfforddiant a phrentisiaethau wedi trawsnewid ein sefyllfa ni fel busnes ac wedi ein galluogi i dyfu yn ystod cyfnod eithriadol o heriol pan oedd llawer o fusnesau’n dirywio, gwaetha’r modd.

“Trwy ennill y wobr, credwn ein bod wedi helpu i daflu goleuni ar y gwaith rhagorol y mae cynifer o fusnesau Cymru’n ei wneud ym maes prentisiaethau ac i ddangos bod modd cyflogi a hyfforddi’ch staff eich hunain yn llwyddiannus os yw’r bobl a’r rhaglenni cywir gennych.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

More News Articles

  —