Darparwyr dysgu’n cyflenwi rhaglen swyddi newydd ar gyfer oedolion ifanc

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bydd dau gwmni darparu dysgu seiliedig ar waith yn helpu i gyflenwi rhaglen newydd a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc – Twf Swyddi Cymru+.

Mae’r rhaglen hyblyg, sy’n rhan allweddol o’r Warant i Bobl Ifanc gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig pecyn cymorth pwrpasol i helpu pobl ifanc 16-18 oed i ddatblygu eu sgiliau a chael profiad gwaith sy’n ateb anghenion cyflogwyr er mwyn eu helpu i gael eu swydd gyntaf.

Mae ACT ac ITEC Skills and Employment, y ddau gwmni â’u prif swyddfa yng Nghaerdydd ac yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, wedi cael contractau i gyflenwi’r rhaglen newydd ochr yn ochr â Choleg Sir Benfro, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Twf Swyddi Cymru+, mae’n rhaid i bobl ifanc fod rhwng 16 a 18 oed, ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser (NEET), yn byw yng Nghymru a chael eu hasesu gan Cymru’n Gweithio.

Yna, mae Cymru’n Gweithio yn atgyfeirio pobl ifanc gymwys i’r rhaglen sy’n cynnwys tair elfen – ymgysylltu, datblygu a chyflogaeth – ac sy’n edrych ar daith pob dysgwr mewn ffordd gyfannol.

Nod y rhaglen yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad y mae arnynt eu hangen i symud ymlaen i swydd, addysg ar lefel uwch neu brentisiaeth.

Mae’r elfennau ymgysylltu a datblygu yn mynd i’r afael â rhwystrau a nodir gan Cymru’n Gweithio ac yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i symud ymlaen.

Mae hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith, treialon gwaith, prosiectau cymunedol, gwaith gwirfoddol, cyfleoedd dysgu mewn canolfan ac ymgymryd â chymwysterau sy’n amrywio o lefel mynediad i lefel dau.

Pan fydd busnes yn cyflogi person ifanc trwy Twf Swyddi Cymru+, mae Llywodraeth Cymru’n talu hyd at hanner y costau cyflogaeth ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf.

Rhaid i bob swydd a gynigir gan gyflogwr fod am rhwng 16 a 40 awr yr wythnos, am o leiaf chwe mis ac yn ychwanegol at yr anghenion o ran y gweithlu ar y pryd. Yn ogystal, rhaid i’r cyflogwr ymrwymo i gadw’r gweithiwr y tu hwnt i’r chwe mis.

Mae cyflogwyr yn cael cefnogaeth bwrpasol ar hyd yr amser gan ddarparwr dysgu dynodedig a chyngor di-dâl am recriwtio.

Dywedodd Leon Patnett, pennaeth ymgysylltu â phobl ifanc a’u hyfforddi gydag ACT, y bydd y cwmni’n cydweithio â llawer o bartneriaid a chyflogwyr o wahanol sectorau i roi profiadau i gyfoethogi bywyd dysgwyr ac adnoddau dysgu i ehangu eu gorwelion.

Bydd ACT yn cydweithio â phartneriaid i gyflenwi Twf Swyddi Cymru+ ledled Cymru.

Leon Patnett, Head of Youth Engagement and Training, ACT Training

Leon Patnett, Pennaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc a’u Hyfforddi gydag ACT Training

“Mae’n deimlad cyffrous iawn cael cyflenwi rhaglen Twf Swyddi Cymru+ sy’n mynd ati mewn ffordd gyfannol i ddatblygu pobl ifanc ar sail eu hanghenion o ran addysg, dysgu a llesiant,” meddai Mr Patnett.

“Ein nod yw gweld pobl ifanc yn datblygu’n unigolion iach, hyderus; yn ddysgwyr uchelgeisiol, medrus; yn gyfranwyr blaengar, creadigol ac yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus.

“Rydym wedi edrych i weld ble mae’r prinder sgiliau a’r swyddi ac wedi addasu’r hyn rydym yn ei wneud er mwyn rhoi’r cyfle gorau i ddysgwyr ym myd gwaith.”

Dywedodd Julie Dyer, pennaeth gweithrediadau ITEC Skills and Employment, y bydd y cwmni’n cyflenwi’r rhaglen ar draws de a chanolbarth Cymru, ochr yn ochr ag is-gontractwyr, gan gydweithio’n agos â chyflogwyr.

Julie Dyer, Head of Operations, ITEC Skills and Employment

Julie Dyer, Pennaeth Gweithrediadau ITEC Skills and Employment

“Mae’n wych gweld sut y datblygwyd y rhaglen newydd wrth i’r sefyllfa o ran dysgu a chyflogaeth esblygu, yn enwedig o gofio heriau Covid-19 dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai.

“Rydym wedi gweld mwy a mwy o bobl ifanc 16 i 18 oed â phroblemau mawr o ran iechyd meddwl a gorbryder cymdeithasol. P’un bynnag a yw person ifanc yn gallu canolbwyntio ar waith neu’n dioddef o broblemau iechyd meddwl a gorbryder, gallwn adeiladu rhaglen gefnogi bwrpasol i’w helpu.

“Mae pob elfen yn Twf Swyddi Cymru+ yn hybu llythrennedd, rhifedd a llesiant dysgwr. Byddwn bob amser yn ceisio canfod y rhwystrau y mae unigolyn yn eu hwynebu a chydweithio i’w goresgyn.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru a’r contractwyr eraill i helpu i lunio dyfodol y Warant i Bobl Ifanc a rhoi’r rhaglen newydd ar waith.”

Bydd Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu â chyflogwyr sy’n nodi diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+ neu gallant ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 603000.

Caiff Twf Swyddi Cymru+ ei ranariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

ACT Training
ITEC Skills and Employment

More News Articles

  —