Cyhoeddi rhestrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni
Cyhoeddwyd pwy sydd ar restrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Cafodd y panel beirniaid dasg anodd yn hidlo’r ceisiadau niferus nes bod dim ond 23 o ymgeiswyr ar y rhestrau byrion mewn naw categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Cafodd pawb ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a diolchodd i’r holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith oedd wedi anfon ceisiadau.
“Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai. “Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod ei thymor presennol.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Llongyfarchwyd y rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru, hefyd. “Mae prentisiaid yn chwarae rhan hanfodol yn Openreach gan ddod â sgiliau ac egni newydd a ffyrdd newydd o weithio i’r busnes a’n helpu i ddatblygu ein rhwydwaith ffeibr cyflym iawn ledled Cymru,” meddai.
“Rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar recriwtio prentisiaid newydd, o bob oed, i swyddi amrywiol iawn ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud nid yn unig i Openreach ond hefyd i economi ehangach Cymru.”
Prentis Sylfaen y Flwyddyn:
- Olivia Headley-Grant o’r Barri y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a’r Fro
- Malgorzata Bienko, Llandudno y darperir ei hyfforddiant gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor
- Boglarka-Tunde Incze, Llanrug, Caernarfon y darperir ei hyfforddiant gan Itec Skills and Employment
Prentis y Flwyddyn:
- James Matthewman, Maesteg y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Pen-y-bont
- Dion Evans, Talgarreg, Llandysul y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr
- Kiera Dwyer, Rhydyfelin, Pontypridd y darperir ei hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Prentis Uwch y Flwyddyn:
- Albert Brennan, Cefn-y-Bedd, Wrecsam y darperir ei hyfforddiant gan Brifysgol Abertawe
- Jayne Williams, Casnewydd y darperir ei hyfforddiant gan ACT
- Michelle Gaskell, y Fenni y darperir ei hyfforddiant gan ALS Training
Cyflogwyr Bach a Chanolig y flwyddyn:
- Willow Daycare, Caerfyrddin y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training
- Si Lwli, yr Eglwys Newydd, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training
- FSG Tool and Die, Llantrisant y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training
- Ysgol Uwchradd y Drenewydd y darperir ei hyfforddiant gan Portal Training
Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y flwyddyn:
- Kepak Group, Merthyr Tudful y darperir ei hyfforddiant gan Gwmni Hyddorddiant Cambrian
- Persimmon Homes West Wales y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Pen-y-bont
- Celsa Steel UK, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Pontypridd y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training
Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith y flwyddyn:
- Victoria Morris, o Educ8 Training, Ystrad Mynach
- Hayley Walters o Itec Training Solutions, Caerdydd
- Angelina Mitchell o ACT, Caerdydd
Doniau’r Dyfodol:
- Chrystalla Moreton o Celsa Steel y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training
- Anya O’Callaghan o Spirit Hair Team, Ystrad Mynach y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training
- Evan Coombs o Aspire Blaenau Gwent y darperir ei hyfforddiant gan Goleg y Cymoedd
Mae’r categori hwn yn rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr’.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth; neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Alan yn benderfynol o ddefnyddio’i brofiad personol i helpu eraill — Cyfle gan Twf Swyddi Cymru+ wedi helpu Caitlyn i ddod dros ei swildod »