Enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 i gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ychydig dros wythnos sydd gan 23 o gystadleuwyr sydd ar restrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 i aros cyn cyhoeddi enwau’r enillwyr mewn seremoni rithwir ar 10 Tachwedd.

Olivia sat at her desk

Olivia Headley-Grant o’r Barri, ar restr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn. Mae 23 o gystadleuwyr ar y rhestrau byrion mewn naw categori o wobrau.

Ar restr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn mae: Olivia Headley-Grant, o’r Barri, sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a’r Fro; Malgorzata Bienko, sy’n gweithio yn School Lane Preschool, Llandudno ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor; a Boglarka-Tunde Incze o Lanrug, Caernarfon, sy’n gweithio i Gofal Bro Cyf a Marie Curie ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Itec Skills and Employment.

Ar restr fer gwobr Prentis y Flwyddyn mae James Matthewman, dirprwy brif ofalwr y maes yng Nghlwb Golff Maes-teg, y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Penybont; Kiera Dwyer, o Rydyfelin, Pontypridd sy’n gweithio i Sheppards Pharmacy, rhan o grŵp Avicenna, yn Abercynon ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chymorth gan ALS Training; a Dion Evans, sy’n gweithio i Alwyn Evans Cyf yn Nhalgarreg, Llandysul lle mae’n byw, ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Ceredigion and Choleg Sir Gâr.

Y cystadleuwyr am wobr Prentis Uwch y Flwyddyn yw Jayne Williams, o Gasnewydd, sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ac y darparwyd ei hyfforddiant gan ACT; Michelle Gaskell o’r Fenni, sy’n gweithio i’r Forensic Capability Network ac y darparwyd ei hyfforddiant gan ALS Training; ac Albert Brennan o Gefn-y-bedd, Wrecsam, sy’n gweithio i Airbus ym Mrychdyn ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Brifysgol Abertawe.

Ar restr fer gwobrau Cyflogwr Bach a Chanolig y Flwyddyn mae meithrinfa ddydd Gymraeg, Si Lwli, yr Eglwys Newydd, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training; Willow Daycare, Caerfyrddin y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training; FSG Tool and Die, Llantrisant y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd y darperir ei hyfforddiant gan Portal Training, Caerdydd.

Head teacher with Assessor in the office

Robert Edwards, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Drenewydd sydd ar restr fer gwobrau Cyflogwr Bach a Chanolig y Flwyddyn, gyda Cate Handen o Portal Training.

Y rhai sydd ar restr fer gwobrau Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yw Kepak Group, Merthyr Tudful y darperir ei hyfforddiant gan Gwmni Hyddorddiant Cambrian; Celsa Steel UK, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training; Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Pontypridd y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training; a Persimmon Homes West Wales y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Penybont.

Y rhai sy’n cystadlu am y fraint o ennill Gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, sy’n cydnabod pobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau, yw Victoria Morris, Educ8 Training, Ystrad Mynach; Hayley Walters o Itec Training Solutions, Caerdydd ac Angelina Mitchell o ACT, Caerdydd.

Ar restr fer Doniau’r Dyfodol mae Chrystalla Moreton o’r Tyllgoed, Caerdydd sy’n gweithio i Celsa Steel ac y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training; Anya O’Callaghan o Spirit Hair Team, Ystrad Mynach, y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training ac Evan Coombs o Flaenafon sy’n gweithio i PCI Pharma Services ac Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ac y darperir ei hyfforddiant gan Goleg y Cymoedd a Choleg Gŵyr, Abertawe.

Mae’r categori hwn yn rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr’.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —