Prentisiaid yn torri tir newydd mewn bwrdd iechyd blaengar

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae rhaglen brentisiaethau flaengar yn cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol i wynebu’r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru’n heneiddio.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 15,000 o staff, sy’n ei wneud yn gyflogwr o bwys yn ne Cymru. Mae’n darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, ysbyty ac iechyd meddwl i 450,000 o bobl sy’n byw ym mwrdeistrefi Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Cwm Taf Morgannwg University Health Board. staff at work.

Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cymwysterau, gyda Gerrard Fletcher, Sian Yearsley a Kirsty Griffiths, prentisiaid yn y labordai.

Ar ôl canfod y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru’n 65 oed neu drosodd erbyn 2036, datblygodd y Bwrdd ei strategaeth bedair blynedd yn ôl i ymgorffori dysgu seiliedig ar waith er mwyn ehangu ei gyfleoedd recriwtio.

Ymhlith ei brentisiaethau niferus, lansiodd y Bwrdd y Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Gwyddor Gofal Iechyd (HCS) y llynedd mewn partneriaeth â’r darparwr hyfforddiant, Educ8 Training. Dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n pontio’r bwlch oedd yn dilyn cymhwyster Lefel 3 ym maes iechyd gan alluogi’r dysgwr i fynd i wneud gradd a dod yn wyddonydd cofrestredig.

Yn awr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Eglurodd Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu’r Bwrdd ar gyfer cymwysterau: “O’r blaen, heb y llwybr hwn, roedd gweithwyr cymorth gofal iechyd yn sownd mewn swyddi band dau a thri heb lawer o gyfle i symud ymlaen, ond mae hyn yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ddatblygu, ennill mwy o arian a gwireddu eu breuddwydion.

“Mae cyflwyno Gwyddor Gofal Iechyd Lefel 4 yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau difrifol trwy ddatblygu sgiliau allweddol yn y sector trwy dyfu ein staff ein hunain.

“Mae’r fframwaith Gwyddor Gofal Iechyd yn gymhwyster anhygoel sy’n rhan o set o adnoddau sydd ar gael i gefnogi datblygiad staff ac adeiladu ar wasanaethau o safon uchel. Mae’n cynnig gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy mewn dros 50 o ddisgyblaethau gan ddarparu datrysiad cynaliadwy.”

Mae’r cymhwyster Lefel 4 yn helpu dysgwyr i gael swyddi cynorthwyol ym maes awdioleg, gwyddor gwaed a pheirianneg glinigol, i enwi dim ond rhai. Er bod y rhaglen yn rhedeg ledled Cymru, caiff ei harwain gan dîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cynigir prentisiaethau mewn partneriaeth â Talk Training ac ACT Training hefyd, ond mae’r Bwrdd yn cydweithio ag Educ8 i ddatblygu prentisiaethau pwrpasol sy’n berthnasol i’r bwrdd iechyd ac i’r unigolyn.

Gyda 553 o staff wedi manteisio ar gymhwyster prentisiaeth, a 215 yn gweithio mewn swyddi parhaol ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn dwyn ffrwyth.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith arloesol,” meddai Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid Educ8 Training. “Maen nhw’n sefydliad uchelgeisiol sy’n cydnabod bod hyfforddi a datblygu staff yn hanfodol er mwyn sicrhau gofal rhagorol bob amser i’w cymuned a’u cleifion.”

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Educ8

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —