Lansio gornest fawreddog i gydnabod prentisiaid disglair Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bydd cyfle i sêr Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru ddisgleirio yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni eto.

Mae cyflogwyr llwyddiannus, prentisiaid ysbrydoledig ac ymarferwyr dawnus dysgu seliedig ar waith yn cael eu hannog i ymgeisio er mwyn arddangos y rhyfeddodau y maent wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Rheolwr cynhyrchu Compact Orbital Gears, Rob Price, gyda Rowan Morgan
sydd wedi cwblhau ei brentisiaeth mewn peirianneg yn ddiweddar.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y Senedd, y disgwylir iddo ddod i ben yn 2026.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig. Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £366 miliwn yn gwella cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau.

“Bydd hefyd yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.

“Hoffwn annog pawb sy’n ymwneud â’n Rhaglen Brentisiaethau i ddathlu’r hyn y maent wedi’i gyflawni, gan ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl trwy gymryd rhan yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a rhannu’r straeon am eu llwyddiant.”

Dywedodd Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru: “Openreach yw’r cwmni preifat sy’n recriwtio’r nifer fwyaf o brentisiaid yng Nghymru ac felly rydym yn falch iawn o fod yn brif noddwr y gwobrau eleni eto.

“Mae prentisiaid yn chwarae rhan hanfodol yn Openreach gan ddod â sgiliau, egni a ffyrdd newydd o weithio i’r busnes a’n helpu i ddatblygu ein rhwydwaith ffeibr cyflym iawn ledled Cymru.

“Rydym yn rhoi gwerth mawr ar recriwtio prentisiaid newydd i swyddi amrywiol iawn ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud nid yn unig i Openreach ond hefyd i economi ehangach Cymru.”

Gellir lawrlwytho’r ffurflenni cais y gwobrau o llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru a rhaid ymgeisio cyn 12 (ganol dydd), 20 Mai 2022.

O blith yr holl ymgeiswyr, bydd rhestrau byrion yn cael eu tynnu mewn naw categori. Mae gwobrau ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn sy’n cynnwys prentisiaid gradd eleni, am y tro cyntaf.

Mae categori “Doniau’r Dyfodol” yn rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr’.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer Cyflogwr Bach, Canolig, Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn cydnabod pobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau.

Cwmni peirianneg o Raeadr Gwy, Compact Orbital Gears, enillodd Wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn y llynedd ac roedden nhw’n barod iawn i sôn am werth y gwobrau i’r busnes.

Dywedodd Tricia Evans, y rheolydd ariannol: “Roedd ennill y wobr y llynedd yn brofiad arbennig iawn i ni fel cwmni peirianneg bach gwledig yn y Canolbarth. Oherwydd problemau recriwtio dros amser, mae’n hanfodol i dwf y cwmni ein bod yn cyflogi prentisiaid ac yn cadw ein gweithlu.

“Rydym yn falch o gael ein cydnabod am ein gwaith gyda phrentisiaid – mae 36% o’n gweithlu wedi gwneud prentisiaethau gyda ni. Ar hyn o bryd mae gennym ddau brentis ac rydym yn chwilio am ragor achos rydym wedi gweld eu bod yn gydwybodol, yn weithgar ac yn barod i gymryd cyfrifoldeb yn gyflym o dan arweiniad ein mentoriaid.

“Rydym yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wneud rigiau prawf pwrpasol i ateb gofynion ein cwsmeriaid sy’n gweithio yn y sectorau Fformiwla 1, E-geir, awyrofod ac ynni glân, ac rydym yn adnewyddu tyrbinau gwynt hefyd.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

More News Articles

  —