106 o unigolion medrus ar fin cystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU i gael eu coroni fel y gorau yn y DU

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Bydd 106 pobl ifanc dalentog yn chwifio’r faner dros addysg a hyfforddiant Cymru ar lwyfan mwyaf y DU ar gyfer cystadlaethau sgiliau galwedigaethol y mis Tachwedd hwn.

O Cynnal a Chadw Awyrennau yng Nglannau Dyfrdwy i Therapi Harddwch yn Noc Penfro a Teilsio Wal a Llawr mewn Caerdydd, bydd pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn rhoi eu hunain ar brawf 32 categorïau gwahanol, ar draws Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild a WorldSkills y DU.

Yn cymryd lle rhwng 19 a 22 Tachwedd, bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn ymdrechu am fedalau aur, arian ac efydd, a’r cyfle i gynrychioli y DU yn y Gemau Olympaidd Sgiliau nesaf yn 2026 yn Shanghai.

Bydd cystadlaethau SkillBuild, a gynhelir yn Arena Marshall, Milton Keynes, yn cynnwys 10 disgyblaeth, a dyma’r gystadleuaeth aml-fasnach fwyaf a hiraf yn y DU ar gyfer prentisiaid a dysgwyr adeiladu. Tra bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn ymweld a dros 400 o pobl ifanc yn dod at ei gilydd ar draws 45 sgiliau yn rhanbarth Manceinion Fwyaf.

Ar draws dwy Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, bydd Tîm Cymru yn cynrychioli 22% o Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU.

Dywedodd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Inspiring Skills Excellence:
“Mae pawb a gymerodd ran yn y rhagbrofion wedi dangos cymaint o sgiliau trosglwyddadwy, o berfformiad dan bwysau a gwydnwch, i reoli amser, rydym wedi gweld y cyfan. Rydym yn hynod falch o Dîm Cymru a’u hymgyrch i gyrraedd rhagoriaeth.

Llongyfarchiadau a phob lwc i’r rhai sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU, edrychaf ymlaen at eich gweld yn y rowndiau terfynol.”

Drwy gydol y gystadleuaeth bydd cyfleoedd i ymwelwyr a chystadleuwyr gwrdd â chyflogwyr ac arbenigwyr y diwydiant gan roi cyngor ac arweiniad i’w helpu ar hyd eu gyrfa neu eu llwybrau addysgol.

Dywedodd Steffan Thomas, enillydd Medal Aur Gwaith Saer llynedd;
“Roedd cystadlaethau sgiliau yn agoriad llygad go iawn i mi. Maen nhw’n gadael i mi ddangos fy nhalentau a phrofi i gwmnïau yr hyn y gallaf ei wneud.”

Mae rhaglenni datblygu seiliedig ar gystadleuaeth WorldSkills UK yn cael eu cynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant fel bod pobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anableddau dysgu neu anghenion ychwanegol, yn gallu paratoi ar gyfer gwaith.

Bydd y rowndiau terfynol arddangos y gorau o’r goreuon sydd efo’r gallu o weithio dan bwysau llawn hyder. Mae’r cyfle yma mynd yw helpu bobl ifanc ddatblygu sgiliau parod ar gyfer y byd o gwaith.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Gweinidog dros Ynni, yr Economi a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles:
“Fel cenedl rydyn ni’n credu mewn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol, ac mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd effeithiol o gynyddu ymgysylltiad a rhoi’r arfau sydd eu hangen ar bobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd cryf.

“Mae’r llwyddiannau rydyn ni’n eu dathlu’n flynyddol gan ein cystadleuwyr yn dangos y dalent a’r potensial yng Nghymru tra’n amlygu’r addysg a’r hyfforddiant o safon y maen nhw’n ei dderbyn. Mae cystadleuaeth yn cynyddu’r ddarpariaeth a datblygiad sgiliau yn sylweddol ledled y wlad.

“Mae rhaglen WorldSkills a’r cystadlaethau SkillBuild yn helpu i gynhyrchu gweithlu sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy ganiatáu i bobl ifanc feistroli sgiliau ymarferol yn gystadleuol tra hefyd yn arddangos eu potensial ar lwyfan byd-eang.”

WorldSkillsUK
Inspiring Skills Excellence in Wales

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —