Prentisiaethau Uwch yn helpu i godi safonau yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Prentisiaethau Uwch wedi helpu Ysgol Uwchradd y Drenewydd i symud allan o fesurau arbennig trwy wella arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, ynghyd â safonau addysgu a dysgu.

Headteacher and staff standing outside Newtown High School

Pennaeth Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Robert Edwards gyda Cate Harnden o Portal Training ac aelodau o’r staff, Natalie Havard, Ben Jones, Hannah Walton a Sally Huxley.

Rhoddwyd yr ysgol, sydd â 1,200 o ddisgyblion, o dan fesurau arbennig yn dilyn arolygiad gan Estyn yn 2015 pan nodwyd gwendidau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, hunanasesu a chynllunio cyffredinol ar gyfer gwelliant parhaus.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae 18 aelod o’r staff naill ai wedi cwblhau neu’n gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefelau 4 a 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant Portal Training o Gaerdydd.

Codwyd y mesurau arbennig oedd ar yr ysgol ym mis Hydref y llynedd ac mae pawb ond un o’r tîm arwain presennol o bump wedi cymryd rhan mewn Prentisiaeth Uwch.
Mae arweinyddiaeth a rheolaeth, safonau addysgu a dysgu, a lefelau presenoldeb oll wedi gwella.

Mae nifer y gwersi yn yr ysgol a ddyfarnwyd yn ‘Dda’ neu’n uwch wedi cynyddu’n sylweddol a lefel presenoldeb wedi codi o 94% i 95.5%, gan fynd â’r ysgol o’r 25% isaf i’r 25% uchaf yng Nghymru o fewn 12 mis.

I gydnabod y trawsnewidiad hwn, mae Ysgol Uwchradd y Drenewydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Canmolwyd cyfraniad Portal Training gan y pennaeth, Robert Edwards, gan ddweud bod Prentisiaethau Uwch wedi rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i staff weithio mewn swyddi uwch, sicrhau dyrchafiad mewnol a dod yn arweinwyr effeithiol yn yr ysgol a’r tu hwnt.

Erbyn hyn, mae’r staff yn cyfrannu at strategaethau addysg Powys gyfan ac yn sôn wrth ysgolion eraill ledled Cymru am daith lwyddiannus Ysgol Uwchradd y Drenewydd tuag at wella.

Ers ymweliad monitro diwethaf Estyn, mae’r ysgol wedi mabwysiadu nifer o strategaethau i alluogi arweinwyr canol i fod yn fwy effeithiol yn eu gwaith.

Ffurfiwyd partneriaethau sy’n gysylltiedig â lleoliadau profiad gwaith mewn busnesau lleol a phrosiectau llesiant cymunedol.

Yn ôl Mr Edwards, roedd effaith Prentisiaethau Uwch yn “enfawr”. Ymrwymodd i barhau i’w cynnig ochr yn ochr â phecyn cymorth ar gyfer adolygu datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn helpu i gynllunio olyniaeth gyda’r nod o ddiogelu’r ysgol at y dyfodol.

“Trwy gynnig Prentisiaethau Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, rydyn ni’n credu’n gryf ein bod wedi datblygu, ac y byddwn yn dal i ddatblygu, arweinwyr cryf â chydwybod foesol a fydd yn cyfrannu at weledigaeth yr uwch arweinwyr ar gyfer yr ysgol,”

meddai. “Bydd hyn, yn ei dro, yn golygu bod yr ysgol gyfan yn ymroi i wella.”

Dywedodd Clare Jeffries, cyfarwyddwr gweithrediadau Portal Training: “Mae Ysgol Uwchradd y Drenewydd wedi bod ar daith ryfeddol, gan ddangos gwydnwch ac angerdd i roi newidiadau ar waith er mwyn gwella safonau, cymhelliant staff a hyder rhieni a’r gymuned yn yr ysgol.”

Llongyfarchwyd Ysgol Uwchradd y Drenewydd a phawb arall ar y rhestrau byrion gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Portal

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —