Prentisiaethau’n helpu meithrinfa ddydd i ddatblygu staff medrus gofal plant

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae meithrinfa ddydd Gymraeg yng Nghaerdydd yn defnyddio prentisiaethau i ddatblygu gweithwyr medrus i roi’r gofal gorau posibl i deuluoedd a phlant.

Mae 20 o weithwyr ym meithrinfa Si Lwli yn yr Eglwys Newydd. Mae’n rhannu arferion gorau gyda meithrinfeydd eraill ac yn dysgu oddi wrthynt er mwyn i’r staff wella’u sgiliau a’u gwybodaeth yn barhaus.

Si Lwli manager Kim Hellyar with staff. in nursery.

Rheolwr Si Lwli, Kim Hellyar gydag aelodau o’r staff.

Mae gan y cwmni saith prentis sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Gofal Plant o Lefelau 2 i 4 ac mae’r ddwy reolwr, Kimberley Hellyar a Sophie Lewis, wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Cyflenwir yr holl brentisiaethau gan y darparwr hyfforddiant Educ8 Training o Ystrad Mynach.

Yn awr, cafodd ymrwymiad Si Lwli i brentisiaethau ei gydnabod trwy ei chynnwys ar restr fer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Nod y feithrinfa yw cefnogi anghenion ieithyddol sensitif pob teulu drwy feithrin perthnasoedd da a hybu’r Gymraeg.

Dywed Si Lwli fod prentisiaethau wedi galluogi’r feithrinfa i feithrin enw da am ddarparu gofal o safon uchel trwy hyfforddi, datblygu a chadw staff medrus.

“Bu gan Si Lwli raglen brentisiaethau ers sefydlu’r cwmni ddegawd yn ôl ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r busnes,” meddai Kimberley. “Mae prentisiaethau’n ganolog i’n gwaith dysgu a thwf y busnes.

“Maen nhw’n esbonio’r theori a’r rhesymau pam rydyn ni’n gwneud yr hyn a wnawn ac maen nhw wedi helpu’r tîm ehangach i ddeall pam maen nhw’n gwneud gwahanol bethau a sut mae’r rhain o fudd i’r plant.

“Rydyn ni’n ymfalchïo mewn dod o hyd i dalent a phobl sydd wir yn teimlo’n angerddol dros y sector, gan helpu’r genhedlaeth nesaf o ddarparwyr gofal plant i gymryd eu cam cyntaf i’r diwydiant.

“Dylai pawb gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u harbenigedd a gall prentisiaeth helpu pobl i gyflawni eu dyheadau hirdymor ar gyfer eu gyrfa.”

Trwy gydweithio’n agos â’r feithrinfa, mae Rhian Weeks, o Educ8 Training, yn teilwra hyfforddiant hyblyg i ateb anghenion prentisiaid unigol, yn cynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae mentora cychwynnol, arweiniad rheolaidd un i un, adolygu ac arfarnu perfformiad a chymorth iechyd meddwl a llesiant oll yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau dysgu unigol.

“Mae’r bartneriaeth gydag Educ8 Training wedi sicrhau bod ein rhaglen brentisiaethau wedi aeddfedu ac esblygu’n barhaus,” meddai Kim.

Dywedodd Rhian Weeks, o Educ8 Training: “Mae Si Lwli yn mynd yr ail filltir i helpu ei staff, gan roi cefnogaeth aruthrol iddyn nhw i ddatblygu eu sgiliau, cyrraedd eu potensial a rhoi’r’r gwasanaeth gorau posibl i’r plant yn ei gofal.

“Mae’r cwmni’n credu’n gryf mewn datblygiad gydol oes a dysgu seiliedig ar waith.”

Wrth longyfarch Si Lwli a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Educ8

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —