Buddsoddi yn natblygiad staff yn hwb mawr i fusnes newydd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae busnes newydd gofal plant a lansiwyd yng Nghaerfyrddin yn anterth y pandemig Covid-19 yn mynd o nerth i nerth.

Willow Daycare owner with the apprentices at the nursery.

Rebecca Davies (y drydedd o’r dde), perchennog Willow Daycare, gyda Hollie Sutton, Hannah Lines Zechmann, Ellie Jacob, Chloe Owen ac Emily Morris sy’n brentisiaid.

Wrth i’r byd ymgodymu â chyfnodau clo a chyfyngiadau symud, lansiodd Rebecca Davies fusnes Willow Daycare ar dir Ysbyty Cyffredinol Glangwili, gan gydnabod bod prinder difrifol o gymorth gofal plant, yn enwedig i staff y GIG.

O’r dechrau, rhoddwyd pwyslais cryf ar hyfforddi staff trwy brentisiaethau, ac mae’r busnes wedi gweld cynnydd syfrdanol o 1,600% yn nifer y plant sy’n mynychu, o saith ar y dechrau i 130 flwyddyn yn ddiweddarach a staff o 20.

Yn awr, mae’r feithrinfa wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

“Busnes teuluol sy’n rhoi plant wrth galon ein gofal yw Willow Daycare,” meddai Rebecca, sy’n credu bod ysbrydoli ac ennyn chwilfrydedd trwy ddysgu seiliedig ar waith yn arwain at foddhad arbennig yn y gwaith.

“Mae’r ffordd o ddysgu yn beth byw sy’n rhoi boddhad mawr. Yn ein prentisiaethau a’n rhaglenni hyfforddi, mae’r agweddau academaidd yn adeiladu ar yr hyn rydw i’n ei ddysgu. Rwy’n ffyddiog bod y dull hwn wedi cyfrannu at ein llwyddiant achos mae’r plant wrth eu bodd yma.”

Mae tîm Rebecca wedi tyfu i 20 aelod o staff, pawb ohonynt yn cael eu hannog i gofleidio addysg a, lle bo modd, i gynnwys y Gymraeg yn eu gwaith.

Mae hi’n credu y bydd grymuso ac addysgu ei gweithwyr yn fuddiol i sector sy’n dioddef o brinder staff ledled Cymru.

“Mae addysg yn rhoi cyfle i fy mhobl i hedfan yn uchel yn eu gyrfaoedd,” meddai. “Os gallaf i gadw fy nhîm o 20 yn y sector, fe ân nhw ymlaen i gyfoethogi bywydau plant yn y gymuned ehangach am flynyddoedd lawer a chodi safon gofal plant yng Nghaerfyrddin a Chymru.”

Mae Willow Daycare yn cynnig Prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â Gwaith Chwarae Lefel 3. Fe’u cyflwynir ar y cyd â TSW Training a ddywedodd fod y cwmni wedi ennill ei blwyf yn ei flwyddyn gyntaf a’u bod “yn ymddiried ynddo ac yn ei ddathlu”.

“Mae Rebecca’n benderfynol o greu cyfleoedd i bawb, a dyna pam mae’r rhaglen brentisiaethau’n gweithio’n ddelfrydol yn y feithrinfa a bod ei phrentisiaid yn ffynnu,”

meddai Amanda Bathory-Griffiths, pennaeth marchnata TSW Training.

“Mae hi’n creu lleoliadau i fyfyrwyr, cyfleoedd addysg i weithwyr, cydbwysedd gwaith/bywyd i rieni ac, yn bwysicaf oll, hapusrwydd, boddhad a gofal cartrefol, cysurus i’r plant.”

Wrth longyfarch Willow Daycare a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

TSW Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —