Cwmni bwyd buddugol yn annog cystadlu yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Keepak trainee butcher cutting a joint of meat with Keepak Manager and staff standing in the background

Henry Lawson, cigydd dan hyfforddiant gyda’r Kepak Group, gyda (o’r chwith) hyfforddwr tynnu esgyrn o gig eidion, William Mills; cydlynydd hyfforddiant, Malwina Caetano; rheolwr derbyn, Geraint Jones; rheolwr technegol cigyddiaeth gychwynnol, Nathan Freemantle; a rheolwr y neuadd tynnu esgyrn o gig eidion, David Bennett.

Mae cwmni bwyd rhyngwladol y Kepak Group, a enwyd yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd, yn dal i dyfu ac yn annog cystadlu yng ngornest fawreddog 2023 sy’n cael eu lansio heddiw (Mai 16).

Gan fod y model prentisiaethau a ddatblygwyd yn Kepak St Merryn, Merthyr Tudful mor llwyddiannus, mae’n cael ddefnyddio ar draws y busnes cyfan erbyn hyn, yn ei ganolfannau yn Iwerddon, yr Alban a Lloegr.

Mae Kepak St Merryn wrthi’n recriwtio 180 o weithwyr ychwanegol dros y naw mis nesaf gan gynyddu nifer y gweithwyr i tua 1,000. Dywed y cwmni fod y cyfle i ddatblygu gyrfaoedd trwy brentisiaethau yn hwb mawr ac yn ei gwneud yn haws cadw staff.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni 52 o brentisiaid ac mae 12 arall wedi cwblhau eu prentisiaethau. Nod Kepak yw cael 100 o brentisiaid ar y tro er mwyn meithrin ei weithlu medrus ei hun.

Dywedodd Jeremy Jones, rheolwr gweithrediadau adnoddau dynol Kepak Group yn y Deyrnas Unedig: “Ennill y wobr y llynedd oedd yr eisin ar y gacen ac mae wedi rhoi’r hyder a’r brwdfrydedd i Kepak St Merryn ddatblygu ein gwaith.

“Mae prentisiaethau wedi trawsnewid ein ffordd o hyfforddi a datblygu ein pobl. Erbyn hyn, mae gennym weithlu hyderus ac mae hynny’n hybu cynhyrchiant ac yn gwella perfformiad.”

Daw’r newyddion am gynlluniau’r cwmni i ddal i ehangu ar ddiwrnod lansio Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ystod Wythnos Dysgu yn y Gwaith .

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Gellir lawrlwytho ffurflenni’r gwobrau, sy’n cydnabod sêr disglair rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru o Gwobrau Prentisiaethau Cymru a rhaid ymgeisio cyn 12, hanner dydd, ar 16 Mehefin.

O’r ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu llunio yn cynnwys Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn, sydd hefyd yn cynnwys prentisiaid gradd, a Doniau’r Dyfodol.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer Cyflogwr Bach, Canolig, Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn cydnabod pobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Pan fydd busnes yn cyflogi prentis newydd, mae’n gwneud mwy na chael aelod newydd o’r staff. Mae’n buddsoddi nid yn unig yn ei ddyfodol ei hun, ond yn nyfodol ein heconomi hefyd. Mae prentisiaethau’n sbarduno gweithlu ac yn ei wneud yn fwy amrywiol, gan roi cyfle i bobl feithrin sgiliau galwedigaethol o safon uchel a chynnal eu hunain yn ariannol ar yr un pryd.

“Mae ein buddsoddiad mewn prentisiaethau, nid yn unig yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sectorau blaenoriaeth sy’n hanfodol er mwyn ysgogi cynhyrchiant a thwf economaidd, ond mae hefyd yn rhoi mwy o gyfle i bobl o bob oed a chefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwella eu bywydau.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, yn gyfrifol am anelu at y nod hanfodol o fod yn wlad sero net, ochr yn ochr â chynnal yr economi sylfaenol o-ddydd-i-ddydd a’r gwasanaethau cyhoeddus y bydd angen i ni eu cyflenwi.

“Rwy’n annog pawb sy’n ymwneud â’n rhaglen brentisiaethau i ddathlu’r hyn y maen nhw yn ei gyflawni. Gallwch ysbrydoli eraill i ddilyn eich esiampl trwy gymryd rhan yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a rhannu’r straeon am eich llwyddiant.”

Mae Kepak St Merryn eisoes wedi recriwtio 50 o weithwyr newydd eleni ac mae’n gobeithio ychwanegu 100 arall erbyn diwedd Ionawr 2024, a chynyddu nifer ei brentisiaid hefyd.

Mae gan y cwmni ei hyfforddwyr mewnol ei hun i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, Arwain Tîm Bwyd, Rheoli Bwyd, Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd, a Rheolaeth. Mae Coleg Sir Benfro’n darparu prentisiaethau peirianneg hefyd.

“Mae prentisiaethau’n sicr yn help i recriwtio gan ein bod yn gallu cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau,” meddai Mr Jones. “Trwy feithrin sgiliau, mae gweithwyr yn symud i’r lefel nesaf o ran cyflog. Rydyn ni’n awyddus i werthu gyrfa yn hytrach na dim ond swydd.

“Rydyn ni’n meithrin diwylliant o ddysgu a gweithlu medrus trwy gynnig cyfleoedd i’n gweithwyr ddatblygu eu gyrfaoedd er mwyn iddyn nhw a’u teuluoedd gael dyfodol disglair.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —